Covid-19 (Coronafeirws) Datganiad Cymdeithas Eryri
Oherwydd yr her coronavirus, mae staff y Gymdeithas yn gweithio o adref yn rheolaidd. Rydym yn dal i fonitro e-byst. Gallwch anfon e-bost atom: info@snowdonia-society.org.uk
Mae ein gweithgareddau wedi cael eu canslo, eu newid neu eu gohirio. Trowch at y tudalen o ddigwyddiadau am fwy o wybodaeth. Rydym yn canslo/gohirio pob gweithgaredd ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.
Rydym yn dilyn cyngor y llywodraeth ac yn adolygu gweithgareddau ac asesiadau risg mewn ymateb i’r sefyllfa.
Mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu yn ddyddiol. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn diweddaru’r trefniadau’n rheolaidd drwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol, yr ebost a’n gwefan.
Cyngor cyffredinol:
- weithredu glanweithdra dwylo sylfaenol i rwystro ymlediad y feirws, felly cofiwch olchi eich dwylo’n rheolaidd gyda sebon am o leiaf 20 eiliad.
- ddefnyddio gel glanhau dwylo ym mhob sefyllfa lle nad oes dŵr a sebon ar gael.
- gadw eich pellter: fe’ch cynghorir i gadw pellter o ddau fetr rhwng unigolion.
Os oes gennych unrhyw bryderon cliciwch YMA am gyngor diweddaraf y Llywodraeth:
Isod: arweiniad Cyfundrefn Iechyd y Byd ar ymbellhau cymdeithasol
Gyda’n dymuniadau gorau ar yr adeg anodd hon
Tîm Cymdeithas Eryri