Gwrthod cais cynllunio i gynllun trydan dŵr Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Noddun

A’r enillydd yw…Eryri.

Mae’r penderfyniad heddiw i wrthod caniatâd i’r cawr cydwladol ym maes cynhyrchu ynni, RWE, i adeiladu cynllun trydan dŵr ar Afon Conwy, yn newyddion da i breswylwyr a busnesau lleol, cerddwyr, naturiaethwyr, pysgotwyr, caiacwyr, a phobl y mae mannau gwyllt a Pharciau Cenedlaethol yn annwyl iddyn nhw.

Wrth annerch aelodau’r Pwyllgor ar ran y gwrthwynebwyr, fe wnaeth Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold, eu cymell i ystyried geiriau Gwyn Thomas, sydd bellach wedi’u harysgrifio ar wal Hafod Eryri:

‘Ein tasg ni ydi gwarchod y gogoniant hwn’

Fe wnaeth y Pwyllgor Cynllunio ei waith yn iawn heddiw, gan roi blaenoriaeth i Eryri. Blaenoriaethu buddiannau tymor hir y Parc Cenedlaethol yn lle buddiannau culach a blaenoriaethau personol.

Dyna fydd y Pwyllgor Cynllunio yn ei wneud, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cydbwyso materion anodd, craffu ar effeithiau datblygiadau arfaethedig, a gwneud penderfyniadau anodd.  Nid oedd penderfyniad heddiw yn mynd i wneud pawb yn hapus.

Yn bwysig iawn, roedd yn fuddugoliaeth i’r sawl sy’n credu y dylem ni godi llais ar ran Awdurdodau ein Parciau Cenedlaethol a’u gwarchod. Mae’n dystiolaeth fod ein Parciau Cenedlaethol yn cyflawni eu gwaith. Dyma ddibenion y Parciau Cenedlaethol:

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol
  • Hybu cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig y Parciau Cenedlaethol

Mae’r dystiolaeth hon yn bwysig ar adeg pan mae Eryri a Pharciau Cenedlaethol eraill yn wynebu’r perygl o gael eu chwalu – cael eu tanseilio, cael adnoddau annigonol a chael eu camddeall gan Lywodraeth Cymru.

Hoffwn ni ddiolch o galon i bob unigolyn sydd wedi’n helpu i gyflawni hyn – diolch i bawb sydd wedi ysgrifennu a deisebu i achub Afon Conwy. A diolch i AC Aberconwy, Janet Finch-Saunders, sydd wedi gweithio’n ddiflino i gynrychioli pryderon cymaint o’i hetholwyr ynghylch y mater hwn.

Comments are closed.