Coed: pam ein bod yn eu plannu

Coed: pam ein bod yn eu plannu

Dros y gaeaf roeddem wedi gobeithio helpu i blannu miloedd o goed ar amrywiaeth o safleoedd. Prynwyd mwy o rawiau plannu, hyd yn oed! Llwyddwyd i gynnal ychydig o ddyddiau plannu cyn y Nadolig, ond yn drist iawn ni fu’n bosib cynnal sawl diwrnod arall oherwydd y Covid.

Cyn i gadwraethwyr gyrraedd, wrth gwrs, roedd coed yn atgynhyrchu eu hunain yn naturiol, ac maen nhw’n dal i wneud hyn. Felly, wrth i’r tymor plannu coed ddod i ben, dyma gyfle i edrych ar ein rhesymau dros blannu coed.

Mae coed yn gallu bod yn ymarferol, un ai fel gwrych neu fel atalfa sy’n dda i fywyd gwyllt, lloches i dda byw neu fel rhan o gynllun rheoli afon, yn ymwneud yn aml â rheoli llifogydd. Pan mae cysgod coed yn cysylltu mannau, fe all weithredu fel ‘coridor bywyd gwyllt’ i alluogi anifeiliaid i lochesu rhag ysglyfaethwyr, er enghraifft. Maen nhw’n darparu cartrefi ac yn ffynhonnell o fwyd i lu o greaduriaid.

Mae plannu coed yn cynyddu graddfeydd goroesi gan fod y coed eisoes wedi mynd heibio’r cyfnod bywyd cynnar bregus ac mi ddylen nhw felly ffynnu, yn wahanol i’r colledion lu sy’n digwydd wrth atgynhyrchu’n naturiol.

Pam na all coed atgynhyrchu eu hunain?

Mewn llawer o goedlannau Eryri mae’r coed tua’r un oed. Os na fydd coed newydd yn cael eu hychwanegu, daw cyfnod pan fydd hen goed yn dirywio ac yn marw dros yr un cyfnod, gan adael ychydig iawn yn eu lle. Mae atgynhyrchiad naturiol yn digwydd wrth i goed ollwng eu hadau, ond mae graddfa hyn yn cael ei arafu gan sawl rheswm.

Anifeiliaid ydy un: os caiff blaen coeden ifanc ei chnoi, fe all beri ei marwolaeth, os yw yn fach ac nid yn gryf iawn. Fe all geifr lled-wyllt fod yn broblem mewn rhai rhannau o Eryri, lle maen nhw’n rhwystro coed newydd rhag tyfu mewn coedlannau; ambell dro mae defaid yn dod i mewn hefyd. Mae llygod, gwiwerod ac adar yn bwyta llawer o gnau a hadau – er bod y sgrech-y-coed a’r wiwer yn anghofio’n aml lle maen nhw wedi claddu eu hadau ac mae coed yn gallu atgynhyrchu oherwydd hyn.

Mae Rhododendron ponticum yn blanhigyn ymledol sydd wedi gorchuddio lleiniau enfawr o goedlannau Eryri yn y gorffennol. Mae’r dail trwchus yn taflu cysgod dros egin goed ifanc a phlanhigion eraill ar lawr y goedlan. Mae ymdrech lew gan bartneriaethau wedi mynd i’r afael â’r broblem ac mae clirio Rhododendron yn rhywbeth y mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn helpu i’w wneud.

Coed brodorol, collddail yw’r gorau ar gyfer bioamrywiaeth

Mae cyfran sylweddol o orchudd coed y DU ar ffurf planhigfeydd conifferaidd. Mae eu dail ar ffurf nodwyddau’n newid cydbwysedd pH y pridd ac ni all llawer dyfu oddi tanyn nhw. Fe all coed collddail gynnal mwy o amrywiaeth o rywogaethau yn ystod eu hoes, yn enwedig gan fod rhai yn gallu byw am ganrifoedd. Yn eu cyfnodau hŷn, yn enwedig, maen nhw’n wych ar gyfer pryfed ac adar. Yn raddol, mae rhai o’r coedlannau conifferaidd sydd ym mherchnogaeth cyrff cadwraeth yn cael eu plannu gyda choed collddail brodorol wrth i’r conifferau gael eu cwympo.

Gweddillion coedlannau hynafol yw llawer o goedlannau Eryri, sy’n golygu bod rhywfaint o goedlannau wedi bodoli yna ers 1600; ystyrir bod cofnodion dyddiadau o’r cyfnod hwn yn fanwl gywir. Mae ambell i flodyn, fel blodyn y gwynt, yn ddangosyddion coedlannau hynafol. Mae llawer o goedlannau llaith Eryri yn cynnal llysiau’r afu, mwsoglau a rhedyn ar ffurf ‘coedwigoedd glaw Celtaidd’.

Clefyd yr ynn

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae nifer uchel o goed ynn wedi eu heffeithio gan ffwng o’r enw Hymenoscyphus fraxineus. Mae’n gwanhau coed ynn ac mae heintiau’n cael mwy o effaith arnyn nhw ac yn peri marwolaeth cynnar. Mae’r broblem wedi lledaenu’n gyflym ledled y wlad a gellir ei gymharu mewn graddfa i glefyd llwyfen yr Iseldiroedd rai degawdau’n ôl. Felly, mae’n bwysig cael digonedd o goed i gymryd lle’r nifer enfawr a fydd yn cael eu colli o ganlyniad i glefyd yr ynn.

Cyraeddiadau ein gwirfoddolwyr

Ymysg yr enghreifftiau lle mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri wedi helpu i blannu coed mae Llanrwst, Trawsfynydd, Nebo, Llechwedd, Nant Gwynant, ger Penmachno, Maentwrog a Dyffryn Mymbyr. Roedd ein sylfaenydd, Esme Kirby, yn byw yn yr olaf a enwir. Darllenwch yr eglurhad hwn o  feddwl fel dafad pan blannu coeden yn Nyffryn Mymbyr gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol rai blynyddoedd yn ôl.

Rydym wedi helpu projectau Afon Eden a Choedwigoedd Glaw Celtaidd APCE, Coed Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys gyda’u project Dalgylch Conwy Uchaf, eu meithrinfa yn Hafod Garegog a gwarchodfa natur Pensychnant hefyd.

Eleni

Bydd ein cynllun ymgysylltu ag ymwelwyr, Care for Snowdonia, yn ein cadw’n brysur dros yr haf, ond byddwn yn dychwelyd i raglen o waith cadwraeth ymarferol hefyd ymhen amser, pan fydd yn ddiogel i ni gyd-gyfarfod. Efallai na fydd yn golygu plannu coed (sy’n dymhorol) ond fe all gynnwys cynnal a chadw llwybrau, clirio rhywogaethau ymledol megis jac-y-neidiwr neu helpu ar warchodfeydd natur. (Mae gennym ddulliau cadarn a diogel o weithio sy’n ymwneud â Coronavirus).

Hyd hynny, pam na wnewch chi dreulio ychydig o funudau’n cofrestru fel gwirfoddolwr i Gymdeithas Eryri, arwyddo i dderbyn e-fwletinau, neu ymaelodi er mwyn cefnogi ein helusen yn ariannol?

Comments are closed.