Paid â cholli – Noson o straeon gwerin Cymreig gydag Eric Maddern

Dychmygwch yr Wyddfa fel mynydd cysegredig. Delweddwch Eryri a’r Eifl fel dwy fraich fynyddig yn warchod yr ynys sanctaidd o Fôn, bro’r hen dderwyddon o Brydain.

Mae safleoedd hynafol dal i fod yn Eryri, a’u straeon werin wedi goroesi: am Bran Fendigaid, Gwydion fab Dôn, Blodeuwedd, Taliesin a llawer mwy. Mae’n hawdd gweld pam mae Eryri yn cael ei hadnabod fel un o’r tirluniau mwyaf mytholegol ym Mhrydain.

Gall ymwybyddiaeth o’r chwedlau hardd yma cyfoethogi eich profiad o’r tir. Felly ymunwch ag Eric Maddern – ein  storïwr adnabyddus lleol –  yn Caban Brynrefail am 7yp ar Dydd Mercer 22 Chwefror. Rhagor o fanylion YMA.

***Llefydd dal ar gael*** I bwcio, gyrrwch ebost i claire@snowdonia-society.org.uk

Pryd o fwyd dewisol:  Bydd ‘cyri Caban’ ar gael rhwng 5.30 – 6.30yp (Pris £7.50 y pen- rhaid bwcio ymlaen llaw gyda Caban – galwch 01286 685500).

 

Comments are closed.