Rhybudd am Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2016

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Eryri

Dydd Sadwrn, 22 Hydref 2016, 2yp
Mynydd Gwefru, Llanberis, Gwynedd  LL55 4UR

Mae John Harold, cyfarwyddwr y Gymdeithas, yn annog aelodau i gymryd rhan yn y CCB.  “Rydw i’n awyddus i glywed eich barn am faterion pwysig, ein gwaith a’n cyfeiriad”.

Lawrlwytho ffurflen gofrestru

Amserlen

10.30  Taith gerdded chwareli – Taith gerdded bore dan arweiniad Paul Gannon, o gwmpas chwareli lleol yn edrych ar nodweddion daearegol a diwydiannol. Gweddol anodd oherwydd grisiau serth; 2 filltir (â 200m o orifyny).

13.00  Cinio (Mae rhaid archebu cinio erbyn 12 Hydref – gweler y ffurflen gofrestruOs nad oes gennych llyfr siecau, gallech dalu am ginio ar-lein.)

14.00  Busnes swyddogol

  • Cofnodion CCB y llynedd a materion yn codi (mae’r cofnodion ar gael fan hyn ac o’r swyddfa, a byddent ar gael yn ystod y cyfarfod)
  • Adroddiad y Cadeirydd – David Archer
  • Adroddiad Prosiect Ecosystem Eryri – Mary-Kate Jones
  • Adroddiad y Cyfarwyddwr – John Harold
  • Adroddiad Ariannol – Judith Bellis
  • Cwestiynau i swyddogion a staff
  • Cynnig i fabwysiadu’n swyddogol yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y flwyddyn sy’n gorffen 30 Mehefin 2016
  • Cynnig i benodi Bennett Brooks yn Archwilwyr Annibynnol Cyfrifon y Gymdeithas am y cyfnod 2016/17
  • Ethol Swyddogion ac Ymddiriedolwyr- Llywydd: John Lloyd Jones OBE
    – Is-lywyddion: Huw Morgan Daniel, David Firth, Sir John Houghton, Sir Simon Jenkins, Dr Morag McGrath
    – Cadeirydd: David Archer
    – Is-cadeirydd: Margaret Thomas
    – Ymddiriedolwyr: Nettie Collister, Paul Gannon, Katherine Himsworth, Peter Weston.
  • Dyddiad CCB y flwyddyn nesaf: 14 Hydref 2017

15.30  Te a choffi

15.50  Darlith: ‘Gweithredu ar y cyd i achub afon Conwy’ gan siaradwr gwadd, Dan Yates, o’r grŵp cymenedol Achubwch Afon Conwy.

16.50  Gorffen

Dolenni

Cofnodion CCB 2015
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16

Comments are closed.