Deuddeg llun buddugol wedi’u dewis ar gyfer calendr Eryri 2019
Bydd lluniau enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 2018 Cymdeithas Eryri yn cael eu cyhoeddi mewn calendr ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Prynwch y calendr ar lein yma
Yn dilyn y didoli cychwynnol, dewiswyd y delweddau terfynol gan feirniad y gystadleuaeth Natasha Brooks, sy’n ffotograffydd ac yn wneuthurwr ffilmiau lleol arobryn.
O blith y deuddeg enillydd, dyfarnwyd gwobr gyntaf, ail wobr a thrydedd wobr am gyfleu hanfod Eryri yn eu lluniau. Rhoddwyd y wobr gyntaf i Gareth Owen am ei lun llawn sêr ac eira o gopaon y Grib Goch (ar y chwith); cafodd Luke Wilson yr ail wobr am ei godiad haul pinc ar feini Idwal; a daeth Gareth Jones yn drydydd am ei lun agos o grec yr eithin yn mudo.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri John Harold: “Roeddem ni wrth ein bodd ag amrywiaeth y lluniau a gawsom ni. Wrth gwrs, cafwyd llawer o luniau trawiadol o’r mynyddoedd, ond cafwyd delweddau eraill hefyd oedd yn canolbwyntio ar lawer o agweddau eraill o’r ardal.”
Ychwanegodd: “Mae’r delweddau buddugol yn adlewyrchu rhywfaint o harddwch a rhinweddau arbennig Eryri rydym ni’n eu hamddiffyn yn frwdfrydig. Rydym ni’n edrych ymlaen at eu gweld yn y calendr, a fydd ar werth yn ystod yr wythnosau sy’n dod i godi arian tuag at barhau â’n gwaith yn Eryri.”
Os hoffech chi neilltuo copi o’r calendr ymlaen llaw, e-bostiwch info@snowdonia-society.org.uk
Hoffai Cymdeithas Eryri ddiolch i bawb a gyfranogodd yn y gystadleuaeth ac i feirniad y gystadleuaeth, Natasha Brooks, am ddewis y detholiad terfynol.