Caru Eryri 2022

Helpwch i wneud gwahaniaeth yn Eryri eleni

Cynlluniwch eich safle gwersylla: archebwch safleoedd gwersylla ymlaen llaw
Gwnewch yn fawr o’r llu o safleoedd gwersylla gwych yn y Parc Cenedlaethol. Archebwch ymlaen llaw rhag ofn i chi gael eich siomi! Gwiriwch restr CoolCamping o safleoedd yng ngogledd Cymru yma neu’r adran Eryri ar CampsitesUK yma

Rhowch gynnig ar drafnidiaeth gyhoeddus!
Gwiriwch amserlenni bysiau’r Wyddfa yma a Chwm Idwal yma

Cofiwch leihau sbwriel: dewch â bag ac ewch ag o adref
Peidiwch â gadael dim ar eich hôl: ewch â’ch sbwriel i gyd – plastig, papur toiled, croen ffrwythau, caniau a deunydd lapio – adref gyda chi yn dilyn eich ymweliad. Dylech gymryd nad oes biniau yn y mynyddoedd, oherwydd does dim. Gallwch wneud bywyd yn haws i chi eich hun drwy ddod â bag a’i gludo yn ôl i’ch cartref wedi i chi orffen.

Paid â defnyddio barbeciws tafladwy a pheidio â chynnau tân mewn gwersylloedd
O goedlannau i gopaon mynyddoedd a thwyni tywod, mae Eryri yn gartref i fyd natur unigryw a hardd. O’u gadael heb eu rheoli, fe all barbaciws tafladwy ymledu’n gyflym yn danau gwyllt niweidiol yn ein cynefinoedd mwyaf gwerthfawr, a pheri risg i bobl a da byw a rhoi straen ar wasanaethau argyfwng. Cofiwch osgoi defnyddio barbaciws tafladwy mewn cefn gwlad agored a dylech gynnau tân mewn mannau dynodedig ar wersylloedd gwersylla yn unig. Cewch wybod pa safleoedd gwersylla sy’n caniatáu tanau ar eu safleoedd yn y cyfarwyddiadur uchod.

Gwarchodwch fywyd gwyllt a da byw rhag niwed: cadwch eich ci ar dennyn bob amser
Mae Mot yn rhan o’r teulu, felly mae o’n dod hefyd! Gyda nifer cynyddol o bobl ac anifeiliaid anwes yn ymweld ag Eryri yn ystod y gwyliau, mae’n hanfodol eich bod yn cadw eich ci ar dennyn pan fyddwch allan yn yr awyr agored. Cofiwch eich bod yn rhannu cefn gwlad gyda phobl eraill, yn ogystal â da byw ac anifeiliaid gwyllt. Bydd Mot – a phawb arall – yn diolch i chi am hyn …

Rhai gwefannau defnyddiol arall:

AdventureSmart
MWIS – Gwasanaeth gwybodaeth ar dywydd y mynyddoedd
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Amserlen bysiau Sherpa’r Wyddfa
MountainSafety
Cod Cefn Gwlad
Refill Cymru app (help i ddarganfod llefydd i ail-lenwi dŵr yng ngogledd Cymru)

#CynllunioCanfodCaru

Diolch i’n partneriaid prosiect:

Comments are closed.