Caru Eryri: mynd i’r afael â sbwriel ac ymwneud ag ymwelwyr yn Eryri

Mae Cymdeithas Eryri, elusen gadwraeth a sefydlwyd yn 1967, yn bodoli i warchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â’r ardal rŵan ac yn y dyfodol. Fe wnawn ni hyn gyda:

  • Cadwraeth ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth i Eryri, flwyddyn ar ôl blwyddyn: clirio sbwriel, cynnal llwybrau, mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol a gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.
  • Ymgyrchu i warchod rhinweddau arbennig Eryri rhag bygythiadau megis datblygiad amhriodol neu erydiad ei threftadaeth naturiol a diwylliannol.

Dros y blynyddoedd cawsom y fraint o gael cymorth gan fyddin o wirfoddolwyr a oedd yn awyddus i roi ein gweithgareddau cadwraeth ymarferol ar waith, a llawer o aelodau sy’n cefnogi’r elusen.

Mae coronavirus wedi cael effaith fawr ar ein gwaith ni a llawer o gyrff eraill. Fodd bynnag, dydy o ddim wedi golygu nad ydym wedi llwyddo cymaint yn ystod y cyfnod hwnnw; yn wir, mae wedi golygu ein bod wedi canolbwyntio ar bethau eraill …

Drwy gydol haf 2020, pan orfodwyd llawer o bobl i aros yn eu cartrefi gan y cyfnodau clo, roedd pryder y byddai Eryri, ar ddiwedd yr haf a llacio’r cyfyngiadau, yn gweld heidiau o ymwelwyr yn dod draw i fwynhau’r tywydd mewn ardal heblaw lleoliad eu cartrefi. Wrth annog pobl i gael rhywfaint o ymarfer corff bob dydd daeth llawer i werthfawrogi cerdded a’r awyr agored, ac wrth gwrs doedd hi ddim yn bosibl teithio dramor. Lluniwyd cynllun ar frys.

Ym mis Gorffennaf ac Awst 2020, arweiniodd Cymdeithas Eryri broject partneriaeth uchelgeisiol, gyda gwirfoddolwyr yn crwydro rhai o ardaloedd prysuraf Eryri ar benwythnosau tri-diwrnod dros gyfnod o wyth wythnos. Buom yn gweithio mewn partneriaeth gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan greu hefyd ymgyrch hysbysebu, gyda’r negeseuon allweddol i ymwelwyr i ‘fod yn ddiogel, troedio’n ysgafn a bod yn garedig’, ynghyd ag anfon negeseuon syml fel ‘does dim biniau ar yr Wyddfa’.

Dros 23 diwrnod yn ystod y project hwn, casglodd 54 o wirfoddolwyr y swm anhygoel o 546 bag o sbwriel o ochrau llwybrau a ffyrdd. Roedd hyn yn ogystal â’r sbwriel a gasglwyd gan Wardeniaid Gwirfoddol ardderchog yr Wyddfa ar lwybrau’r Wyddfa fawr ei hun.

Yn 2021, buom yn gweithio ar raddfa fwy, a chawsom gymorth Llywodraeth Cymru i’n helpu i sicrhau hyn. O dan yr enw Caru Eryri, ehangwyd y project o benwythnos y Pasg i ddiwedd mis Medi, gyda gwirfoddolwyr yn crwydro ar bump diwrnod yr wythnos. Gwirfoddolodd oddeutu 70 o bobl eu hamser mewn wyth ardal, yn cynnwys Llanberis, Llyn Tegid, Dyffryn Ogwen, Nant Gwynant, Yr Wyddfa, Cader Idris, Rhyd-ddu a Llyn Dinas. Efallai eich bod wedi digwydd gweld ein gwirfoddolwyr yn eu siacedi oren llachar ac yn cario bachwyr sbwriel.

Roedd dau nod i’r project: un oedd clirio sbwriel oddi ar y tir, a’r llall oedd gwarchod y tir ac annog pobl i beidio taflu sbwriel. Os oes ambell i leoliad yn glir o sbwriel, rydym wedi sylwi nad ydy pobl yn debygol o daflu sbwriel yno. Yr ail nod oedd bod yn gyfeillgar ac yn groesawgar a sgwrsio gydag ymwelwyr. Roedd pobl yn teimlo’n ddigon hyderus i ddod atom i ofyn am barcio neu lle roedd llwybrau’n cychwyn. Gobeithio ein bod wedi rhwystro pobl rhag galw’r tîm achub mynydd wrth sgwrsio â phobl nad oedd ganddyn nhw fawr o syniad o anawsterau posibl wrth gerdded mynyddoedd. Gobeithio hefyd ein bod wedi helpu pobl leol gan eu bod yn gallu gweld bod rhywbeth yn cael ei wneud i helpu ardaloedd i ymdopi gyda chymaint o ymwelwyr.

Roedd swm y sbwriel a gasglwyd rhywbeth tebyg i 2020. O ganlyniad  i bresenoldeb rheolaidd ein gwirfoddolwyr, roedd ambell i lecyn yn fwy glân nag y bu ers blynyddoedd. Fodd bynnag, ar adegau roedd yn drist iawn codi sbwriel nad oedd yna’r diwrnod cynt, neu hyd yn oed awr neu ddwy wedi i ni fynd heibio. Mae’r cynnydd mewn gwersylla anghyfrifol heb ganiatâd y tirfeddiannwr, ac efallai diffyg dealltwriaeth o realiti cerdded mynyddoedd, yn golygu bod baw dynol a weips llaith, dillad a hyd yn oed pebyll wedi eu gadael yn olygfa gyffredin, yn drist iawn. Gwelodd miloedd o bobl ein hysbysebion a oedd yn annog ymwelwyr i gynllunio eu hymweliad, darganfod ardaloedd heblaw’r rhai mwyaf poblogaidd a helpu i warchod tir, pobl a da byw drwy ymddygiad parchus.

Cyfrannodd gwirfoddolwyr Caru Eryri at brofiad mwy pleserus i lawer iawn o ymwelwyr a phobl leol yn haf 2021. Rydym yn hynod o ddiolchgar i bob un o’r unigolion a fu’n cymryd rhan. Pandemig ai peidio, mae poblogrwydd Eryri fel cyrchfan i ymwelwyr wedi bod yn codi bob blwyddyn. Os hoffech chi gymryd rhan gyda Charu Eryri yr haf eleni, cofrwstrwch efo My Impact. Trwy hwn medrwch bwcio ar bob cyfle gwirfoddoli, yn cynnwys dyddiadau Caru Eryri. Fydd dyddiadau Caru Eryri yn cael eu hysbysebu yna, ac ar ein tudalen Digwyddiadau, yn fuan iawn!

Bellach, mae Cymdeithas Eryri’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau cadwraeth ymarferol i unrhyw un sy’n awyddus i wneud eu rhan i helpu i warchod tirluniau, cynefinoedd a rhywogaethau Eryri. Mae sawl cyfle ar gael bob mis a does dim dim rhaid i chi ymrwymo i wirfoddoli’n rheolaidd – byddem yn gwerthfawrogi eich amser hyd yn oed unwaith yn unig! Ewch i Digwyddiadau ar ein gwefan a dilynwch y cysylltau i fynegi eich diddordeb. Efallai y fyddwch yn cynnal a chadw llwybrau, plannu gwrychoedd, helpu cyrff cadwraeth a thirfeddianwyr lleol gydag amrywiol orchwylion, neu yn gofalu am ein gardd a’n coedlan ein hunain yn Tŷ Hyll, Betws-y-Coed.

Os hoffech yn aelodi Cymdeithas Eryri, mae manylion ar ein gwefan.

Mary Williams

Swyddog Cadwraeth a Thŷ Hyll, Cymdeithas Eryri.

Comments are closed.