Gwirfoddolwyr: mae arnom eich angen chi

Mae’r haf yn agosáu yn gyflym ac mae angen eich help i reoli effeithiau ymwelwyr!

Mae Cymdeithas Eryri yn cydweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal rhaglen wirfoddolwyr er mwyn helpu i reoli effeithiau ymwelwyr.

Y llynedd, gwelwyd timau o wirfoddolwyr yn crwydro’r ardal yn yr haf, yn rhoi gwybodaeth i ymwelwyr, yn clirio sbwriel ac yn darparu cefnogaeth i wasanaethau prysur y Wardeniaid.

Cwblhawyd gwaith gwych gan y gwirfoddolwyr yma. Eleni mae angen mwy eto i ymuno â’r tîm. Ein nod yw darparu presenoldeb ar fwy o leoliadau dros gyfnod hirach er mwyn helpu mwy o ymwelwyr a chefnogi mwy o gymunedau lleol.

Pwyntiau allweddol:

  • Bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn cyflwyniad a hyfforddiant llawn ac asesiadau risg; darperir offer gwarchodaeth bersonol, a bydd protocol Covid yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.
  • Cewch hyblygrwydd i ddewis shifftiau sy’n gyfleus i chi ac i wirfoddoli yn aml neu’n achlysurol yn unig yn ôl eich dewis chi.
  • Bydd y cynllun hwn ar waith rhwng mis Ebrill (yn ddibynnol ar reolau’r cyfnod clo) hyd fis Medi felly bydd digonedd o gyfle i bawb gymryd rhan.
  • Cefnogir gwaith hanfodol gwirfoddolwyr gan negeseuon ar-lein er mwyn helpu ymwelwyr i wneud y dewisiadau cywir; fel eu bod yn cael gwell gwyliau, y Parc Cenedlaethol yn cael ei warchod, a chymunedau lleol yn cael eu cefnogi.

Camau nesaf:

Bydd angen i chi greu cyfrif gyda My Impact, y feddalwedd wirfoddol newydd rydyn ni’n ei ddefnyddio. Ar ôl i chi wneud hyn a bod eich cofrestriad wedi’i gymeradwyo byddwch yn gallu cofrestru eich hunan a’r shifftiau Caru Eryri, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwr.  Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Etta.

Gallwch ein helpu ni i helpu pobl i:

Gynllunio taith ddiogel
Ddarganfod mannau newydd
Warchod Eryri
#Cynllunio #Canfod #Caru

Comments are closed.