Caru Eryri

Caru Eryri

Gwneud gwahaniaeth yn 2021

Daeth torfeydd o bobl heb eu tebyg o’r blaen i Eryri y llynedd i fwynhau harddwch y Parc Cenedlaethol.

Bydd gwyliau o fewn y DU yn siŵr o fod yn boblogaidd eto yn 2021, gyda phobl yn dyheu am ddianc wedi cyfnod clo’r gaeaf, felly mae’n bosibl y bydd Eryri yn fwy prysur eto.

Dyma pam fod angen eich cymorth chi arnom ni.

Mae Cymdeithas Eryri yn cydweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal rhaglen wirfoddolwyr er mwyn helpu i reoli effeithiau ymwelwyr.

Y llynedd, gwelwyd timau o wirfoddolwyr yn crwydro’r ardal yn yr haf, yn rhoi gwybodaeth i ymwelwyr, yn clirio sbwriel ac yn darparu cefnogaeth i wasanaethau prysur y Wardeniaid.

Cwblhawyd gwaith gwych gan y gwirfoddolwyr yma. Eleni mae angen mwy eto i ymuno â’r tîm. Ein nod yw darparu presenoldeb ar fwy o leoliadau dros gyfnod hirach er mwyn helpu mwy o ymwelwyr a chefnogi mwy o gymunedau lleol.

Pwyntiau allweddol:

  • Bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn cyflwyniad a hyfforddiant llawn ac asesiadau risg; darperir offer gwarchodaeth bersonol, a bydd protocol Covid yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.
  • I’r sawl sy’n awyddus i gymryd fwy o gyfrifoldeb bydd cwrs Cymorth Cyntaf Awyr Agored proffesiynol ar gael am ddim.
  • Cewch hyblygrwydd i ddewis shifftiau sy’n gyfleus i chi ac i wirfoddoli yn aml neu’n achlysurol yn unig yn ôl eich dewis chi.
  • Bydd y cynllun hwn ar waith rhwng mis Ebrill (yn ddibynnol ar reolau’r cyfnod clo) hyd fis Medi felly bydd digonedd o gyfle i bawb gymryd rhan.
  • Cefnogir gwaith hanfodol gwirfoddolwyr gan negeseuon ar-lein er mwyn helpu ymwelwyr i wneud y dewisiadau cywir; fel eu bod yn cael gwell gwyliau, y Parc Cenedlaethol yn cael ei warchod, a chymunedau lleol yn cael eu cefnogi.

Cysylltu:

Gellir cofrestru o fis Mawrth ymlaen. Yn y cyfamser e-bostiwch etta.trumper@eryri.llyw.cymru i fynegi eich diddordeb ac i dderbyn neges i adael i chi wybod pa bryd y gallwch gofrestru.

Gallwch ein helpu ni i helpu pobl i:

  • Gynllunio taith ddiogel
  • Ddarganfod mannau newydd
  • Warchod Eryri

#Cynllunio #Canfod #Caru

Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod cynllunio a pharatoi’r gwaith hwn.

 

 

Comments are closed.