Os na wyddoch am y cysylltiad rhwng caniau diod a chynhesu byd eang, gweler fy eitem blog Sut i gael 14 panad o 1 can diod.
Diolch o galon i bawb sy wedi cyfrannu at neu wedi noddi fy her CodiCanArbedCarbon. £639 yw’r cyfanswm am roddion a noddi hyd yn hyn. Pob elw at Cymdeithas Eryri i helpu i gadw Eryri’n arbennig.
Gwell byth, mae nifer o bobl wedi dweud bod nhw wedi hysbrydoli i bigo caniau neu sbwriel i fyny yn eu hardaloedd ei hun.
Blog CodiCanArbedCarbon
Rwyf wedi lansio blog bydd yn trafod themau’n gysylltiedig â sbwriel, caniau alwminiwm a chynhesu byd eang. Dyma’r eitemau cyntaf:
- Sut i gael 14 panad o 1 can diod
- Pam byddaf yn troi llygad dall i sbwriel
- Sut mae ¼ tunnell o CO2 yn edrych?
Rhannwch ar Facebook neu drydar, neu anfonwch nhw ymlaen, a gawn ni godi ymwybyddiaeth am y wastraff o ynni sydd yn sbwriel alwminiwm.
A ydych chi’n arwr sbwriel?
Wrth i fi siarad efo mwy o bobl rwyf yn darganfod llawer o bobl eraill sy’n codi sbwriel hefyd. Rwyf am ysgrifennu blog am yr arwyr sbwriel ‘ma. Sgynnoch chi hanes buasech yn hoffi rhannu?
Ac os nad ydych wedi ‘wneud eisioes,
Frances
Cyfannu Noddwch fi
Blog CodiCanArbedCarbon
info@snowdonia-society.org.uk
Gallech ddilyn sut dwi’n mynd ymlaen yn CodiCanArbedCarbon.