Bydd fy her sbwriel alwminiwm Codi Can Arbed Carbon yn achub 30kg o ganiau diod alwminiwm, os byddaf yn llwyddo cyrraedd fy nharged o 2,000 o ganiau. Ar ôl i’r caniau hyn gael eu hailgylchu byddaf wedi arbed 270kg o CO2 – dros ¼ tunnell.
Ond sut mae ¼ tunnell o CO2 yn edrych?
Yr un maint â char, neu dŷ? Neu mor fawr â stadiwm pêl-droed? Allwch chi ei gweld?
Gallwn weld CO2 yn ei ffurf soled fel iâ sych, a rydym yn gyfarwydd â’r cymylau o ‘niwl’ pan fydd yn anweddu, ond mae allyriadau CO2 yn anweledig i’r llygad noeth.
Yn ôl www.unep.org, mae un dunnell o CO2 yn cymryd lle ciwb maint adeilad tair llawr: 8.2m x 8.2m x 8.2m (27’ x 27’ x 27’). 1 dunnell o CO2 yw faint mae pob un ohonom yn gyfrifol am allyrru bob mis yn y DU, ar gyfartaledd.
Ychydig o gyfrifiadau wedyn, ac mae gennym …
Bws deulawr
Bydda’r 270kg o CO2 arbedwyd drwy fy her Codi Can Arbed Carbon yn cymryd hyd tua 5,000 troedfedd giwbig, ychydig mwy na maint bws deulawr modern. 270kg o CO2 yw faint sy’n cael ei gynhyrchu drwy yrru 1,000 o filltiroedd mewn car sy’n neud 50myg.
I weld dehongliadau diddorol o 1 dunnell o CO2, gweler CO2cubes.
A pheidiwch ag anghofio cyfrannu neu fy noddi! Elw i gyd at Gymdeithas Eryri.
Frances
Blog CanSaveCarbon
info@snowdonia-society.org.uk