Galw am gynnwys sbwriel yng nghynllun newydd ‘y llygrwr sy’n talu’

Pob blwyddyn, mae ein timau’n cyflawni cryn dipyn o waith wrth glirio sbwriel o leoliadau harddaf Eryri. Yr haf diwethaf yn unig cliriwyd 1033kg o sbwriel o sawl llethr mynydd a chilfan.

Dyna pam yr ydym wedi arwyddo llythyr yn cefnogi ein ffrindiau yn Cadw Cymru’n Daclus, sy’n galw ar ddiwydiant i gymryd mwy o gyfrifoldeb am y deunydd pecynnu a gynhyrchir ganddyn nhw.

Gyda’n gilydd, rydym yn galw am drosglwyddo cost casglu’r sbwriel a’i roi ar ysgwyddau’r cynhyrchwyr. Bydd hyn, gobeithio, yn arwain i ddechrau at gynhyrchu llai o ddeunydd pecynnu ac, yn y pen draw, at leihad yn y sbwriel sy’n diweddu ei oes yn ein dyfrffyrdd a’n cefn gwlad.

Darllenwch fwy ar wefan Keep Britain Tidy

Diweddariad, 6 Ebrill:

Mae’r Summary of Responses to the Extended Producer Responsibility consultation wedi ei gyhoeddi. Rydym yn falch o weld bod llywodraethau Cymru a’r Alban (yn wahanol i lywodraeth y DU) yn dal eu tir wrth eiriol dros un o’r elfennau allweddol o ‘gyfrifoldeb cynhyrchydd’:

Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban yn parhau’n ymroddedig i’r safbwynt a amlinellir yn yr ymgynghoriad: y dylid cynnwys y gost o glirio deunydd pecynnu o’r ddaear yng nghostau’r cynhyrchydd, gan adlewyrchu cyfrifoldeb cynhyrchwyr dros y dewis o gynllun a deunydd pecynnu, ac y byddai’r gofyniad hwn yn darparu anogaeth i leihau faint o becynnu un-deunydd a ddefnyddir a chymryd camau eraill i rwystro’r broblem sbwriel. Ochr yn ochr â hyn, byddai cyrff a chymdeithasau y tu hwnt i awdurdodau lleol yn unig yn gallu elwa o’r nawdd hwn ar gyfer ymgyrchoedd rhwystro sbwriel neu ddigwyddiadau casglu sbwriel lleol.

Bydd Cymru a’r Alban yn arwain ar ddatblygu cynigion manwl i amlinellu sut alla’i hyn weithio.”

Comments are closed.