Ymunodd myfyrwyr Prifysgol Bangor yn y frwydr!

Un dydd Sadwrn oer a chlir ym mis Tachwedd, aeth 15 myfyriwr o Gymdeithas Cadwraeth Prifysgol Bangor i ganol Eryri yn gwisgo eu dillad cynnes.  Eu gwaith am y diwrnod oedd helpu Cymdeithas Eryri i glirio Rhododendron ponticum o Nant Gwynant.

Mae Rhododendron ponticum yn rhywogaeth ymledol estron sy’n gallu meddiannu mannau sylweddol yn gyflym.  Prin iawn yw ei fudd i fywyd gwyllt cynhenid y Deyrnas Unedig, oherwydd mae ei ddail yn wenwynig, ac ni ellir ei reoli trwy bori.  Bydd gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn treulio cannoedd o oriau bob blwyddyn yn ei dorri mor agos at y ddaear ag y bo modd, i’w baratoi i gael ei chwistrellu â chwynladdwyr gan gontractwyr Parc Cenedlaethol Eryri.

Cyrhaeddodd y myfyrwyr yn gynnar ac fe aethant ati yn gyflym i weithio.  Roedd Meghan McBlain yno ar y diwrnod a dywedodd “Ar ddechrau’r diwrnod, roeddwn i’n benderfynol o amlygu wal y gallwn i weld yn sbecian trwy bentwr enfawr o rododendron. Wedi 5 awr (o waith caled) a aeth heibio fel y gwynt, roeddwn i wedi cyflawni’r her! Ar waethaf y baw a theimlo rhywfaint boen y diwrnod wedyn, roedd y boddhad yn sgil cyflawni nod a gweld golygfeydd Eryri dan eira yn golygu fod y cyfan yn werth y drafferth.”

Roedd y profiad yn ddefnyddiol iawn i Jordan Mann. Dywedodd “roedd yn brofiad gwych i mi oherwydd nid oeddwn i erioed wedi gwneud rhywbeth mor fawr â hynny o’r blaen. Rwy’n dymuno gweithio yn y maes hwn, felly roedd gallu gwneud hynny yn brofiad amhrisiadwy.”

Diolch o galon i holl aelodau’r grŵp, a oedd yn frwdfrydig ac yn barod i weithio’n galed,  ac fe aethant ati o ddifrif i wneud y gwaith.  Gobeithio y cawn eu cwmni yn ystod diwrnod gwaith arall yn fuan!  Dywedodd Danielle Hunt, a gysylltodd â ni i drefnu’r diwrnod gwaith “Rwy’n gwybod y gwnaeth pob un ohonom fwynhau’r diwrnod gwaith clirio Rhododendron yn fawr. Roedd yn ddiwrnod godidog, a chawsom fwynhau golygfeydd godidog o’r mynyddoedd dan eira ac fe wnaethom ni chwerthin llond ein boliau – roedd yn ddiwrnod pleserus a gwerth chweil!”

Os ydych chi’n gwybod am grŵp neu os ydych chi’n rhan o grŵp a hoffai elwa o gyfle tebyg, cofiwch gysylltu ag owain@snowdonia-society.org.uk neu mary-kate@snowdonia-society.org.uk

Comments are closed.