Cadwraeth a ffermio – rydym yn hwn gyda’n gilydd

Yn gynharach yr wythnos hon daeth dros 200 o bobl i’r theatr ddarlithio ym Mhlas y Brenin i wrando ar ein Cyfarwyddwr yn traddodi sgwrs am ‘Ailystyried Dad-ddofi’. Cadwraethwyr, ffermwyr, ecolegwyr a llawer mwy, i gyd efo’i gilydd mewn un lle, yn ystyried y cwestiynau ynghlwm â’r berthynas rhwng pobl a thir.

Y ddadl ganolog yw bod ffermio a chadwraeth yn weithgareddau sydd â synnwyr o bwrpas a synnwyr o le, bod tirluniau’n cael eu creu gan bobl sy’n trin y tir a bod byd natur, yn yr ynysoedd hyn, yn cael ei wau i mewn i’r un ffabrig hwnnw. Os yw dad-ddofi’n mynd i olygu rhywbeth mae angen iddo adlewyrchu a pharchu’r gwirioneddau hynny, gorchwyl fydd yn gofyn am amser ac amynedd.

Gyda golwg ar weithredu’n ymarferol, mae Cymdeithas Eryri wedi cydlynu ei hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddyfodol ffermio ym myd Brexit, byd y mae’n bosib y byddwn yn ymuno ag ef yn fuan. Mae’r newidiadau o’n blaenau’n debygol o gael effeithiau trawiadol ar sawl maes ffermio a rheolaeth tir ehangach.

Gallwch ddarllen ein argymhellion i ymgynghoriad Ffermio Cynaladwy yma: Cymdeithas Eryri response Sustainable Farming and Our Land final.

Comments are closed.