Bzz! Cyfweliad arbennig â Zac Tatam, gwenynwr newydd Tŷ Hyll

Bzz! Cyfweliad arbennig â Zac Tatam, gwenynwr newydd Tŷ Hyll

Fe wnaeth Zac Tatam gwrdd â’i bartner Lorenza wrth weithio yng Nghanolfan Addysg Agored Towers, dafliad carreg o’n heiddo enwocaf, Tŷ Hyll. Maent yn byw yn Nolgarrog gyda’u merch fach Izzy, diadell fechan o ddefaid Shetland a dau o gŵn defaid, ac maent yn gofalu am saith cwch gwenyn yn Eryri.

Fel gwenynwyr amatur, roedd gan Zac a Lorenza ddiddordeb mewn yn y Prosiect Gwenyn Mêl yn Nhŷ Hyll, ac fe wnaethant fachu ar y cyfle i ddod yn gyfrifol am y gytref o wenyn yn ein coetir yn gynharach eleni.

Ym mis Tachwedd, cafodd Swyddog Ymgysylltu Cymdeithas Eryri,  Claire Holmes,  gyfle i gael sgwrs a phaned gyda Zac yng nghanolfan Towers i ddysgu rhagor am eu cynlluniau ar gyfer dyfodol ein cyfeillion bychan.

Claire:  Zac, mae’n bleser cael cwrdd â chi o’r diwedd. Roeddwn i’n hanner disgwyl eich gweld chi’n gwisgo eich gwisg gwenynwr!

Zac: (yn chwerthin) Wel, rydym ni’n agos at yr adeg o’r flwyddyn pan fyddwn ni’n gadael i’r gwenyn ofalu amdanynt eu hunain, felly rydw i fwy neu lai wedi cadw’r wisg yn y cwpwrdd dros y gaeaf.

Claire: Mae’n swnio fel eich bod chi wedi cael blwyddyn brysur. Pryd ddaethoch chi’n gyfrifol am y cwch?

Zac:  Ar ddiwedd Ebrill eleni. Roeddem ni’n cadw gwenyn ers oddeutu dwy flynedd ac roeddwn i wedi cwblhau’r cwrs 19 mis yng Ngerddi Bodnant, felly roeddem ni’n awyddus i ysgwyddo cyfrifoldeb am brosiect newydd pan wnaethom ni glywed fod Cymdeithas Eryri yn chwilio am wenynwr newydd.

Claire: A sut wnaeth gwenyn Tŷ Hyll ymateb i chi?

Zac:  Rwy’n credu eu bod yn gwybod mai dechreuwyr oeddem ni! Roeddent yn bendant yn fwy ymosodgar na’n cytrefi eraill, ond maent yn wenyn duon Cymreig, ac mae pawb yn gwybod fod ychydig yn fwy o gythraul ynddynt nag isrywogaethau eraill y gwenyn.

Claire: Cawsom ni aeaf garw hefyd yn sgil y ‘Bwystfil o’r Dwyrain’. A wnaeth hyn effeithio arnynt?

Zac: 
Heb os. Gall gwenyn ymdopi ag oerfel ond nid pan fydd hi’n wlyb hefyd.  Roeddent mewn cyflwr gwael iawn pan wnaethom ni gychwyn gofalu amdaynt ym mis Ebrill, ond diolch i’r haf hyfryd a gawsom ni, cafodd y gwenyn hwb go iawn ac fe gawsom ni gynhaeaf mêl gwych wrth gasglu’r mêl ym mis Awst. Mae’n gytref iach a chryf ar hyn o bryd.

Claire:  Dyna newyddion gwych. A beth wnaethoch chi â’r holl wenyn blasus?

Zac: Fe wnaethom ni gasglu oddeutu 11 kilo o fêl, a ddefnyddiwyd yn ein casgliad o nwyddau Izzy’s Bees. Pethau fel eli gwefusau, cŵyr a chanhwyllau. Fe wnaethom ni werthu’r rhain a photiau o fêl yn Ffair Fêl Conwy ym mis Medi, ac fe wnaethom ni lwyddo i roi chwarter yr elw i Gymdeithas Eryri.

Claire:  Mae hynny’n wych. Dywedwch ragor wrthym ni am Izzy’s Bees. Oes rheswm pam mae wedi’i enwi ar ôl eich merch fach?

Zac: Oes. Fe wnaethom ni brynu’r cychod gwenyn a’r offer i sefydlu busnes bach ar gyfer Izzy pan fydd hi’n hŷn. Byddwn ni’n rhoi rhywfaint o’r elw o werthiant ein cynnyrch mewn cronfa, fel y bydd ganddi hi gychwyn cadarn mewn bywyd pan fydd hi’n mynd i’r brifysgol neu’n prynu tŷ yn y dyfodol.

Claire: 
Mae hynny’n syniad gwych, ac yn enghraifft dda o sicrhau fod bywyd yn y Parc Cenedlaethol yn bosibl i’r genhedlaeth nesaf…

Zac: 
Ydy. Roeddem ni’n dymuno sefydlu rhywbeth yn Eryri sy’n fyw ac yn ffynnu ar gyfer Izzy, ac i drosglwyddo ein diddordeb mewn gwenyn a’r byd naturiol iddi hi.

Claire: Mae hynny’n bwysig iawn. Mae’n dda gweld fod cymaint o ymdrech yn cael ei wneud i gynorthwyo gwenyn yn lleol. Felly ar ddechrau’r cyfweliad, fe ddywedoch y byddwch chi’n cadw eich gwisg gwenynwr yn y cwpwrdd dros y gaeaf. A yw hynny’n golygu y byddwch chi’n camu’n ôl wedi’r haf prysur?

Zac: Byddaf i raddau. Mae angen cadw’r cwch ar gau fel bydd y gwenyn yn cadw’n gynnes trwy’r gaeaf, felly ni fyddaf yn ei archwilio tan y gwanwyn. Ond cyn i mi ffarwelio tan y gwanwyn, byddaf yn rhoi tamaid mawr o ffondant gwenyn yn y cwch i’w cynnal dros y misoedd nesaf

Claire:  Ffondant gwenyn – a yw hynny’n debyg i farsipán i wenyn?

Zac: Ydy fwy neu lai. Mae’n flocyn caled o siwgr, ffrwctos, gwyn wy a phaill a gedwir yn rhan uchaf y cwch fel ffynhonnell o faeth wrth gefn. Gobeithio y bydd ganddynt ddigon o’u mêl eu hunain, ond mae’n cynnig rhywbeth ychwanegol rhag ofn y cawn ni aeaf garw a hir.

Claire:  Diddorol iawn, a phriodol iawn o gofio fod y Nadolig yn agosáu…

Zac:  Yn sicr. Rydym ni’n edrych ymlaen at weld sut gwnaethant oroesi’r gaeaf pan fyddwn ni’n agor y cwch unwaith eto’r gwanwyn nesaf.

Claire:  Wel, mae’n ymddangos bod ein gwenyn mewn dwylo diogel gyda’r ddau ohonoch chi. Diolch am eich amser heddiw Zac, a bob llwyddiant â’ch mentrau!

Zac: Diolch yn fawr. 

—-

Mae Cymdeithas Eryri eisiau diolchi Zac a Lorenza am gymryd drosodd y cwch wenyn yn Nhŷ Hyll. I ddarganfod mwy am eu menter fusnes ‘Izzy’s Bees’, ewch i’r tudalen Facebook.

Fe wnaeth mêl Tŷ Hyll rhedeg allan y flwyddyn yma ond bydd mwy ar werth yn ystod Ffair Fêl Conwy blwyddyn nesaf ar 13 o Fedi, 2019.

Cadwch i fyny gyda digwyddiadau Tŷ Hyll a chyfleoedd wirfoddoli ar lein.

 

Comments are closed.