Bygythiad i ffermio traddodiadol a brand y Parc Cenedlaethol

Delwedd: © Mike Alexander

Cynnig am uned da byw dwys yn peri risg o danseilio sail rhinweddau arbennig Eryri

Rhoddwyd cynlluniau ar gyfer uned gynhyrchu wyau efo 32,000 o ieir ger Llanegryn yn ôl gerbron pwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am yr eildro ar 6 Mawrth. Cymeradwywyd y cynlluniau i ddechrau gan y pwyllgor mewn amgylchiadau dadleuol ychydig cyn y Nadolig. Y tro yma gohiriwyd y cynnig er mwyn rhoi mwy o amser i’r ymgeisydd roi dogfennau gerbron.

Pe bai caniatâd cynllunio’n cael ei ganiatáu y datblygiad hwn fyddai’r uned da byw dwys enfawr cyntaf yn Eryri. Mi fyddai felly’n gosod cynsail gyda risg uchel. Mae Cymdeithas Eryri yn credu bod y risg i ffermio eang traddodiadol ac i ‘frand’ y Parc Cenedlaethol yn ormodol; dyma pam yr ydym yn gwrthwynebu’r cais cynllunio ac wedi rhoi gwrthwynebiadau grymus gerbron ar bob cam o’r broses.

Risg i ffermio traddodiadol

Ffermio traddodiadol yw asgwrn cefn Eryri. Yn yr 20fed ganrif rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r dreftadaeth fyw hon gyda dynodiad Eryri fel Parc Cenedlaethol. Heddiw mae’r tirlun yn adnodd gwerthfawr sy’n cael ei fwynhau gan filiynau, ond mae’r ffermio traddodiadol a’i luniodd o dan gwmwl o ansicrwydd.

Fel mae pethau ar hyn o bryd bydd rhan sylweddol o’r gefnogaeth ariannol ar gyfer ffermio yn y dyfodol yn cael ei seilio ar ‘arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus’.

Buddion pwysig i gymdeithas nad ydyn nhw’n cael eu cyflenwi’n ddigonol gan economi marchnad confensiynol yw nwyddau cyhoeddus. Mae nwyddau cyhoeddus yn cynnwys pethau fel awyr a dŵr glân, pridd iach, casglu a storio carbon, tirlun, distawrwydd a bioamrywiaeth. Mae’r gallu gan y ffermio traddodiadol eang a luniodd Eryri i wireddu nwyddau cyhoeddus o’r ansawdd uchaf ac ar raddfa. Y tir hwn, sydd wedi ei sybsideiddio ers blynyddoedd fel tir ‘o dan anfantais difrifol’ o ran amaethyddiaeth, yw’r un tir sydd heddiw’n berchen ar y gallu mwyaf i wireddu nwyddau cyhoeddus i bob un ohonom.

Mae’r rôl allweddol hon yng nghynhyrchiad nwyddau cyhoeddus yn datblygu ar yr un seiliau â luniodd Parc Cenedlaethol Eryri yn y lle cyntaf; ei thirlun cyfoethog, diwylliant a bywyd gwyllt. Ond efallai y bydd y gallu hwn yn cael ei danseilio wrth gyflwyno unedau da byw dwys ar raddfa fawr, yn union fel y byddai wrth greu stadau diwydiannol, parciau thema neu draffyrdd.

Mae’r cyfle yn bodoli i ‘frand’ Eryri – cynnyrch o ansawdd uchel gyda’r safonau amgylcheddol uchaf – gynrychioli’r gorau o ‘Frand Cymru’. Fe all glastwreiddio’r brand hwnnw wrth gyflwyno cynhyrchu dwys danseilio cynnig Eryri, gyda chanlyniadau tymor hir i economi Eryri.

 

 

 

 

 

Comments are closed.