Aelodau busnes newydd yn cefnogi Eryri

Croeso mawr i ein haelodau busnes newydd

Mae Bwthyn gwyliau Swn-y-Dŵr, Betws-y-Coed a Superfix Supplements, Cwm-y-Glo wedi dangos eu hymrwymiad i ddiogelu a gwella tirlun odigog Eryri, ei bioamrywiaeth a’i threftadaeth ddiwylliannol unigryw trwy ddod yn Aelodau Busnes o Gymdeithas Eryri.


Swn y Dwr holiday cottageMae Swn-y-Dŵr yn fwthyn gwyliau pen ucha’r farchnad a leolir ar lan Afon Llugwy ac o fewn un munud o waith cerdded i Bont-y-Pair. Mae ganddo erddi helaeth sy’n rhedeg i lawr at yr afon a gwelâu i hyd at 11 o bobl. Medda Nick Corney, “Yn byw ac yn caru Eryri rydym yn awyddus i ofalu amdano fo.” Mae Swn-y-dwr yn cynnig gostyngiad i aelodau o 10{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} ar lety.


Superfix-logoSuperfix Supplements, Cwm-y-Glo
Mae Superfix yn datblygu ac ymchwilio cynhyrchion ethno-milfeddygol naturiol ar gyfer ceffylau. Yn ogystal â’u gwaith gyda’r ceffylau rasio gennynt hefyd ystod o gynnyrch ar gyfer merlod brodorol datblygu gyda’n Merlod Mynydd Cymreig hunain yma yng Nghymru. “Mae Eryri yn darparu defnyddiau i ni, felly mae’n deg i gefnogi’r rhai sy’n gofalu am Eryri ac i chwara rôl weithredol at ei gynaliadwyedd.”


Gweler ein tudalen Aelodau Busnes i weld rhestr lawn o ein haelodau busnes a’r gostyngiadau mae rhai ohonynt yn eu cynnig.

Ymaelodawch fel Aelod Busnes

Comments are closed.