Bysiau: Newid er Gwell!

Bysiau: Newid er Gwell!

Mae angen eich barn ar Lywodraeth Cymru am wasanaethau bws ar gyfer y dyfodol.

Mae’r ymgynghoriad ‘Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru’ (cyswllt isod) yn agored hyd 24 Mehefin

Fel corff rydym am gydnabod ymarfer da lle mae hynny’n briodol, ac rydym yn gweld arweiniad gan Lywodraeth Cymru ar ddatblygiad trafnidiaeth mwy cynaliadwy a theg yng Nghymru. Mae’r gwaith ar y gweill drwy gyfrwng Comisiwn Burns a’r Panel Adolygiad Ffyrdd nid yn unig yn uchelgeisiol, mae hefyd yn dangos llwybr syth o amcanion clir hyd at weithredu. Mae’n deg iawn bod arweiniad o’r fath yn cael ei gydnabod, ac mae hefyd yn rhoi hyder i ni ei bod yn werth buddsoddi amser ac egni wrth ymateb i ymgynghoriadau fel hyn.

Yn ddiweddar, darparodd Cymdeithas Eryri grŵp o staff, ymddiriedolwyr ac aelodau ar gyfer grŵp ffocws i gyflenwi gwybodaeth ar gyfer ymchwil y Senedd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn dilyn Covid. Canolbwyntiodd ein mewnbwn ar faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth yn y Parc Cenedlaethol ac o’i gwmpas. Roedd yn drawiadol gweld sut roedd profiadau personol pobl yn dod â’r mater yn fyw. Dyna pam rydym yn eich annog i dreulio ychydig funudau yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Mae eich profiad yn werthfawr, hyd yn oed os nad ydych yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae cael gwared â’r rhwystrau a wynebwn yn allweddol i greu trafnidiaeth gyhoeddus sy’n briodol ar gyfer yr 21ain ganrif.

Byddwn yn gadael i chi wybod y diweddaraf ar faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth, ond yn y cyfamser byddem yn ddiolchgar pe baech yn ymateb i’r ymgynghoriad:

https://gov.wales/one-network-one-timetable-one-ticket-planning-buses-public-service-wales#:~:text=Consultation%20description&text=The%20white%20paper%20sets%20out,same%20footing%20as%20new%20ones

 

Comments are closed.