Bore Coffi, Bethesda, 12 Rhagfyr

Neuadd Ogwen, 9am – 12.00

Mae dau o’n gwirfoddolwyr wedi trefnu bore coffi ym Methesda i dynnu sylw at ein gwaith a rhoi cyfle i ddod i gael sgwrs gyda ni amdano.

Dewch yn llu i fwynhau cacennau cartref a peis mins. Bydd hefyd cardiau Nadolig Cymdeithas Eryri ac ein Hadau er lles Gwenyn ar werth. Bydd na dombola’n cynnwys llyfrau am Eryri, paentiadau gyda thema leol a phob math o eitemau diddorol eraill.

A allech chi roi cacennau neu wobrau tombola? Neu efallai helpu gyda gweini diodydd a chacennau neu golchi llestri? Cysylltwch â Judith Bellis ar judithsnowdonia@aol.com os ydych â diddordeb.

Mae Marchnad Ogwen hefyd ar yr un pryd yn Neuadd Ogwen, felly dyna ddau reswm gwych am ymweld â Bethesda ar 12 Rhagfyr!

 

Comments are closed.