Argyfwng y GIG arall
Parciau Cenedlaethol yw ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol Naturiol, math o Wasanaeth Iechyd Gwladol yn yr awyr agored. Mae Parciau Cenedlaethol am ddim yn y man darparu, ac maent yn darparu presgripsiwn i leddfu’r pen a helpu’r galon i bwmpio gwaed. Mae Parciau Cenedlaethol a’r GIG yn deillio o’r meddylfryd newydd a fodolai wedi’r rhyfel, pan fentrodd y genedl holi sut gallai pethau fod yn wahanol ac yn well i bawb. Heddiw, fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol arall, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn wynebu heriau ariannol ar raddfa ddigyffelyb.
Cyflwr cronig
‘CRONIG’ – ansoddair – (ynghylch salwch) yn para am amser maith neu’n ailddigwydd yn gyson.
Mae toriadau wedi digwydd ers nifer o flynyddoedd ac mae rhagor ar ddod, ac erbyn 2020, bydd cyfanswm cyllideb Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn £4.48 miliwn, sydd mewn gwirionedd yn llai na’i gyllideb yn 2000 (£4.54 miliwn). Gan ystyried chwyddiant, mae hyn yn golygu fod y grym gwario sydd ar gael i ofalu am Eryri wedi gostwng oddeutu 40%.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi dileu 40 o swyddi staff ers 2007. O blith y rheiny, mae o leiaf 25 wedi diflannu yn ystod y 4 blynedd diwethaf. Collir rhagor o swyddi staff eleni, ac yn ystod blynyddoedd dilynol. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi ceisio diogelu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd, ond gellir eisoes gweld yr effaith mewn gwasanaethau megis Canolfannau Croeso.
Dan y gyllell
Bydd unrhyw un sy’n treulio amser yn Eryri â’i lygaid ar agor yn cychwyn sylwi ar effeithiau’r toriadau nesaf a wneir yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae Cymdeithas Eryri wedi ymateb i ymgynghoriad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ynghylch yr her ariannol mae’n ei hwynebu. Mae’r cynigion yn ymwneud â chynyddu incwm, lleihau costau ac ailstrwythuro. Ond y cynigion ynghylch lleihau lefelau gwasanaethau sy’n peri pryder go iawn i mi.
Ymhlith cynigion eraill, ystyrir toriadau’r i’r gwasanaethau canlynol:
- Hawliau Tramwy Cyhoeddus
- Cyfathrebiadau
- Cadwraeth
- Mynediad
- Wardeniaid
- Gweithwyr Ystâd
Yn achos staff ymdrechgar y Parc Cenedlaethol, mae’n debyg fod yr ansicrwydd ynghylch y toriadau sydd ar y gweill yn anfuddiol. Ar lefel mwy strategol, mae Parciau Cenedlaethol Cymru wedi wynebu blynyddoedd o ansicrwydd, ac mae eu dibenion a’u llywodraethu wedi bod yn destun tri adolygiad dilynol gan Lywodraeth Cymru. Mae Comisiwn Williams, adroddiad Marsden a phroses Tirweddau’r Dyfodol oll wedi defnyddio ymagweddau gwahanol i ystyried beth ddylai ddigwydd nesaf.
Nawr, mae ar ein Parciau Cenedlaethol angen chwistrelliad o arweinyddiaeth a thriniaeth estynedig yn cynnwys ymroddiad a buddsoddiad gan y llywodraeth.
Sgil-effeithiau
Efallai mai un o sgil-effeithiau difrifol toriadau ar ben colli staff profiadol fydd colli’r capasiti a’r hyder sy’n ofynnol i arwain prosiectau ar raddfa fawr. Ar hyn o bryd, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn arwain amrywiaeth o brosiectau, yn cynnwys:
- Partneriaeth Tirwedd Carneddau
- Prosiect Coedwig Law Geltaidd LIFE+
- Ailwampio’r Ysgwrn
- Prosiect Afon Eden
- Prosiectau rheoli mawndir
- Cyfoeth ein Corsydd
- Statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a rheoli’r statws hwnnw
- Treftadaeth Trefwedd Dolgellau
Yn ddiweddar, mae sefydlu Partneriaeth yr Wyddfa a Fforwm Eryri yn brawf o gydweithio allanol cadarnhaol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Cymdeithas Eryri yn cyfrannu at nifer o’r partneriaethau a’r prosiectau hyn; rydym ni’n credu fod capasiti Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i hwyluso’r gwaith hwn mor anhepgor ag y mae dan fygythiad.
Gobaith yn sgil triniaethau newydd?
Mae’r ddeddfwriaeth amgylcheddol newydd wedi’i chreu yng Nghymru yn cynnig heriau a chyfleoedd. Nid yw’n afresymol honni, fel mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, fod Cymru yn arwain y byd â’i Deddf Amgylchedd Cymru a’i Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yr her, fel yn achos bob deddfwriaeth, yw llwyddo i’w gweithredu, troi geiriau yn weithred; gweithredu sy’n dod â’r ddeddfwriaeth yn fyw.
Mae’r ddeddfwriaeth yn mynnu ein bod ni’n rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, adfer bioamrywiaeth a gweithio ar draws sectorau ar y raddfa briodol. Mae cyflawni hynny yn gofyn am weddnewid y modd mae llywodraeth, busnes a dinasyddion yn rhyngweithio. Ble arall byddem ni’n cychwyn y gwaith hwn ond yn ein Parciau Cenedlaethol? Dyna ble mae’r profiad, yr arbenigedd, a’r modelau ymarferol ar gyfer rheoli adnoddau yn sensitif wedi cael eu datblygu’r dawel ers 70 mlynedd.
Y peth da am Barciau Cenedlaethol yw’r ffaith eu bod yn gweithio ar raddfa digon mawr i fynd i’r afael â materion eang ynghylch adnoddau megis carbon a dŵr a heriau penodol dirywiad bioamrywiaeth a mynediad teg. Mae angen sicrhau cydbwysedd: sicrhau newid a chynnal dibenion cadwraeth y Parciau Cenedlaethol ar yr un pryd. Os gwnawn ni ychwanegu at lwyddiannau’r Parciau Cenedlaethol a chynnal eu hegwyddorion yn ymwneud â chadwraeth ar yr un pryd, bydd gennym ni fan cychwyn ar gyfer amgylchedd heb ei ail yng Nghymru.
Bydd y Parciau Cenedlaethol eu hunain yn darparu’r deunyddiau crai, yr ysbrydoliaeth, y adnoddau, yr arbenigedd a’r profiad mae arnom eu hangen. Ac mae ar y Parciau Cenedlaethol hwythau angen buddsoddiad ac ymroddiad, a bydd yr hyder i ymgymryd â’r gwaith pwysig hwn yn deillio o hynny. Mae angen y buddsoddiad hwnnw ar hyn o bryd, fel gall y Parciau Cenedlaethol fod yn addas i gyflawni cadwraeth a’r gallu i reoli adnoddau naturiol a fydd yn llesol i bawb ohonom ni.