Ymgyrch y Big Give yn addunedu i ddyblu cyfraniadau ar-lein i Gymdeithas Eryri

Ymgyrch y Big Give yn addunedu i ddyblu cyfraniadau ar-lein i Gymdeithas Eryri

Bydd Cymdeithas Eryri yn elwa o ddyblu cyfraniadau elusennol rhwng dydd Iau 22 Ebrill a dydd Iau 29 Ebrill, diolch i Gronfa Gyfatebol Werdd y Big Give 2021.

Gwahoddir cefnogwyr Cymdeithas Eryri i gyfrannu ar-lein i’r Big Give yn ystod y saith diwrnod, fel rhan o gais i godi £5000 i gefnogi eu hymdrech wirfoddoli yn y Parc Cenedlaethol yr haf hwn.

Meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold

“Rydym yn disgwyl y bydd nifer uchel o bobl yn ymweld ag Eryri eto eleni ac mae mae angen cymaint o gymorth â phosib arnom i godi ein cronfa darged o £5k drwy ymgyrch y Big Give sy’n addunedu i ddyblu unrhyw gyfraniad a dderbynnir gennym yn ystod yr wythnos 22-29 Ebrill 2021.

Bydd codi’r arian hwn yn ein helpu i recriwtio, darparu offer, hyfforddi ac arwain gwirfoddolwyr i helpu i warchod ein Parc Cenedlaethol rhyfeddol, yn ogystal â’n helpu i ddatblygu negeseua amgylcheddol pwysig gyda’n cyhoedd.”

Ychwanegodd“Rydym yn falch iawn o gael ein dewis gan y Big Give i fanteisio ar y cyfle hwn i godi arian amgylcheddol. Mae’n dangos bod pobl yn dod i ddeall gymaint yw ein hymrwymiad i warchod Eryri”

Peidiwch â methu’r cyfle hwn i sicrhau bod eich cyfraniad i Gymdeithas Eryri yn cael ei ddyblu yn ystod yr wythnos 22-29 eleni. Nodwch y dyddiad a’n helpu i gyrraedd ein targed o £5k.

Ewchi theBigGive.org.uk rŵan

Comments are closed.