Newid er gwell: eich arweiniad i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus Eryri

Gan Claire Holmes, Swyddog Ymgysylltu, Cymdeithas Eryri

Rydym yn paratoi ein hunain ar gyfer haf prysur yma yn Eryri. Mae’r tueddiad barhaus am wyliau o adref ac atynfa’r Parc Cenedlaethol yn golygu ein bod yn debygol o weld llawer yn dychwelyd i fynyddoedd a thraethau Eryri i fwynhau byd natur.

Mae hyn yn newyddion da i lawer o fusnesau annibynnol y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar lanw a thrai tymhorol ymwelwyr. Mae’n ardderchog hefyd i’r sawl sy’n dod i Eryri i ddianc rhag dwrw, traffig a thorfeydd y ddinas. Mae Parciau Cenedlaethol yn darparu’r harddwch a’r llonyddwch sydd eu hangen ar bob un ohonom wrth ddianc o’n bywydau prysur bob dydd.

Fodd bynnag, ein prif ddull o grwydro o amgylch y mannau arbennig yma yw mewn car ac mae cymaint o gerbydau yn dechrau amharu ar harddwch y lleoedd yr ydym mor hoff ohonyn nhw. O gadwyni o gerbydau ar hyd cymoedd hardd fel Nant Ffrancon i’r rhesi o gonau traffig lliwgar, mae’r effeithiau gweledol yn niferus. Ac, er gwaethaf y rhyddid a gawn wrth yrru car o ran cyfleuster a mynediad i’r mynyddoedd, mae yna hefyd gostau amgylcheddol enfawr a chostau economaidd sy’n parhau i gynyddu.

Fel elusen sy’n bodoli i warchod rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol, rydym yn gweithio i sicrhau trafnidiaeth gynaliadwy o safon uchel ar gyfer Eryri. Fel cam i’r cyfeiriad hwnnw, ein dymuniad yw cefnogi pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i wneud defnydd llawn o’r opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n cysylltu pobl gyda lleoliadau allweddol Eryri.

Rydym bellach yn gweld mynyddwyr profiadol yn defnyddio’r bysiau i sicrhau bod eu hanturiaethau’n fwy cynaliadwy ac yn dangos fwy o barch tuag at amgylchedd gwerthfawr Eryri. Pam na wnewch chi roi cynnig ar y bysiau eich hun? Mae angen newid mewn persbectif i gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus yn eich cynllunio, ond efo’r newid hwnnw daw rhyddid o lyw’r car a chewch weld y tirlun fydd o’ch cwmpas o’r newydd. A bydd y baned o de honno ar ddiwedd y dydd yn blasu cymaint yn well o ganlyniad.

Dyma rai opsiynau i’ch rhoi ar ben y ffordd:

1) Llwybrau’r Wyddfa a gwasanaeth bws y Sherpa

Os byddwch yn dal y bws i gychwyn ar eich taith gerdded i fyny’r Wyddfa ai peidio, mae cynllunio eich trafnidiaeth a’ch parcio yn angenrheidiol o ystyried pa mor gyflym mae’r meysydd parcio’n llenwi. Allwch chi ddim parcio ym Mhen y Pas (cychwyn llwybrau’r Mwynwyr a’r PyG) heb archebu gofod parcio ymlaen llaw felly’r cam cyntaf yw paratoi. Os ydych yn teimlo’n anturus – ac rydym yn awgrymu hyn yn gryf! – beth am adael eich car ym maes parcio Llanberis neu Nant Peris a dal y bws i fyny’r dyffryn i Ben y Pas? Gadewch i’r gyrrwr bws wneud y gwaith a mwynhewch yr olygfa wych. Mae bysiau’n teithio’n aml ac yn costio £2 i un oedolyn, £3 i oedolyn yno ac yn ôl a £1.50 i blentyn yno ac yn ôl, a derbynnir taliad di-gyswllt. Gallwch weld a lawrlwytho Amserlen Sherpa’r Wyddfa o wefan Cyngor Gwynedd yma.

2) Bws T10 Betws-y-coed, Cwm Idwal a Bethesda

Mae ymweliadau â Chwm Idwal yn uchel ar restr y sawl sy’n galw heibio Eryri. A dydy hynny ddim syndod: ychydig o gilometrau i fyny’r ffordd o Fethesda rydych yn un o dirluniau daearegol mwyaf trawiadol y Parc Cenedlaethol. Y dewis gorau sy’n bodoli o ran mynediad i Lyn Ogwen a Chwm Idwal o Fangor, Bethesda a Betws-y-coed yw’r gwasanaeth bws T10. Mae’n rhedeg saith diwrnod yr wythnos, yn cysylltu gyda gwasanaethau trên yng ngorsafoedd Bangor a Betws-y-coed ac yn cysylltu hefyd gyda rhwydwaith Sherpa’r Wyddfa (uchod) ym Metws-y-coed a Chapel Curig. Cliciwch yma i weld yr amserlen.

3) Bws Fflecsi, Dyffryn Conwy

Dyma wasanaeth bws mini newydd gwych y gallwch ei archebu ledled ystod o leoliadau yn Nyffryn Conwy. I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mae angen i chi archebu drwy gyfrwng yr app, ar-lein neu drwy ffonio 0300 234 0300. Cewch gynnig cyfnod amser o 20 munud i gyfateb i’ch dewis o amser teithio. Mae’r gwasanaeth yn gyson ac ar gael rhwng dydd Llun a dydd Sul yn ystod y dydd. Y tâl i oedolion yw £1 hyd at £3 ar gyfer teithiau hirach. Fe all plant deithio am cyn lleied â 50c hyd at uchafswm o £1.50 am deithiau hirach. Gellir defnyddio pasys bws.

Comments are closed.