Byddwch yn swyddog am y dydd a helpu i godi arian i Gymdeithas Eryri

Byddwch yn swyddog am y dydd a helpu i godi arian i Gymdeithas Eryri

Bydd y ras Quest Adventure Race ym Metws-y-coed unwaith eto’n cyfrannu arian i Gymdeithas Eryri am bob swyddog gwirfoddol fydd yn cymryd rhan ar y diwrnod.

Am bob swyddog a gaiff ei recriwtio gan Gymdeithas Eryri, mae trefnydd y digwyddiad Jayne Lloyd wedi addo cyfraniad o £35 tuag at ein gwaith o warchod y Parc Cenedlaethol.

Cynhelir y digwyddiad ym Metws-y-coed ar ddydd Sadwrn 8 Mehefin ac ni fydd yn bosibl ei gynnal heb dîm o wirfoddolwyr i gynorthwyo.

Trefniadau

Fel swyddog gwirfoddol, bydd angen i chi fynychu sesiwn friffio am 7.15yb (darperir brecwast) cyn symud i’ch lleoliad ar gwrs y ras i logio ac annog y cystadleuwyr fydd yn mynd heibio hyd y daw’r ras i ben oddeutu 2yp. Bydd crys-T a phowlen o gawl ar gyfer pob gwirfoddolwr ar ddiwedd y ras fel diolch am gynorthwyo ar y diwrnod.

I helpu cefnogi Cymdeithas Eyri drwy wirfoddoli fel swyddog, cysylltwch â Claire:
claire@snowdonia-society.org.uk | 01286 685498

Comments are closed.