Ydych chi’n arwr sbwriel?

’Dych chi ddim ar ben eich hun. Dywedwch eich stori wrthym.

Trwy fy her CodiCanArbedCarbon, rwyf wedi cyfarfod llawer o bobl sy’n gwella eu bro lleol drwy godi sbwriel, er bod rhai ohonynt yn swil am y peth a dim ond yn codi ysbwriel pan does neb arall o gwmpas. (Gweler fy narn blog Pam byddaf yn troi llygad dall i sbwriel.)

Dyma rai o’r arwyr sbwriel lleol yr wyf wedi cyfarfod:

  • Geoffrey sy’n clirio sbwriel bob dydd ym Montnewydd, gyda’i gi Joe: “Roedd fy hoff daith gerdded wedi ei difetha gan sbwriel, felly penderfynais wneud rhywbeth am y peth.”
  • Mae Madeline yn codi sbwriel môr tra’n nofio. “Rwy’n ei storio yn yr unig lle sgennyf i, sef tu mewn i fy siwt nofio!”
  • Mae Carys, Beryl, John a Sue yn codi sbwriel o’r ffordd ger eu cartrefi yn fy mhentref
  • Mae Cordelia a’i ffrindiau yn clirio sbwriel ym Mhenllyn (pen gorllewin Llyn Padarn)
  • Twm sy’n clirio’r sbwriel o iard yr eglwys
  • Adam yn Llanberis: “Tasai ni i gyd yn gwneud ychydig, ‘sai ddim problem. Cofio mynd â bag sbar bob tro yw’r broblem fwyaf. “
  • Owain a gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri’n casglu sbwriel sy’n cadw’r Wyddfa’n Lân a gweithio i newid ymddygiad sbwriel
  • RAW Adventures sy’n arwain tîm casglu sbwriel yn Gwir Her y 3 Chopa
  • Caru ein Llyn sy’n codi sbwriel yn rheolaidd o amgylch Llyn Padarn
  • Cadwch Gymru’n Daclus sy’n ymgyrchu, yn addysgu a chefnogi mentrau casglu sbwriel
  • Pawb sy wedi cael eu hysbrydoli i godi caniau diod alwminiwm mewn ymateb i fy sialens CanSaveCarbon.

Beth yw eich stori?

Daliwch ati! Bydd codi sbwriel yn ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un fath. A bydd taflwyr sbwriel yn meddwl dwywaith cyn gollwng eu gwastraff – mae sbwriel yn denu sbwriel, wedi’r cyfan.

Felly, os byddwch yn casglu sbwriel, beth yw eich stori? Beth yw eich cymhelliant? A ydych yn falch neu’n bryderus am gael eich gweld?

Noddwch fy her CodiCanArbedCarbon

A pheidiwch ag anghofio cyfrannu neu fy noddi  ar fy her i godi ac ailgylchu 2,000 o ganiau diod, a felly arbed 270kg o CO2. Elw i gyd at Gymdeithas Eryri a’i gwaith cadwraeth yn y Parc a’i gwaith ymgyrchu i gadw Eryri’n wyllt ac yn hardd.

Yn ei godi a balchder,
Frances
Blog CanSaveCarbon
info@snowdonia-society.org.uk


 

Comments are closed.