Ebrill: Pethau rydym yn hoffi eu gwneud fel arfer y mis yma

Mis y gwanwyn yw mis Ebrill ac fel arfer dyma’r mis y byddai ein gwirfoddolwyr yn anelu tua’r mynydd unwaith eto.  Wedi egwyl dros fisoedd y gaeaf, y bwriad oedd ymuno â phartneriaid i fynd i’r afael â thrwsio rhai o lwybrau mwyaf poblogaidd mynyddoedd Eryri.

Yr adeg hon y llynedd ymunodd ein gwirfoddolwyr gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gynnal llwybr Llanberis a llwybr Watkin ar yr Wyddfa, a gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ardal Nant Gwynant wrth weithio ar lwybr Llyn Dinas a Chwm Bychan.  Mae ein gwirfoddolwyr gwych wedi bod yn barod bob amser i ymgymryd â’r gwaith, beth bynnag fo’r tywydd.

Yn anffodus, mae’r sefyllfa eleni yn dra gwahanol ac mae ein gwirfoddolwyr, fel gweddill y wlad, yn gwneud eu rhan ac yn aros adref.  Pan fydd pethau wedi dod yn ôl i’r drefn arferol, byddwn yn bwrw iddi unwaith eto ac rydym yn edrych ymlaen at weld wynebau cyfarwydd (ac ambell wyneb newydd, gobeithio!).  Byddwn yn ceisio ail-drefnu cymaint o’n dyddiau gwaith â phosib, felly bydd digon o gyfleoedd i gymryd rhan a mwynhau’r awyr agored.  Pan fydd yr encilio wedi dod i ben, edrychwn ymlaen at gydweithio efo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rhoi help llaw ar yr Wyddfa, cynnal llwybr llechi Eryri a llawer mwy!  Byddwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i gyfuno’r gwaith hwn gyda’n hyfforddiant achrededig, felly mae digonedd i edrych ymlaen ato.

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael y manylion diweddaraf; cewch wybod sut mae pethau’n dod ymlaen a phryd y byddwn yn gallu mynd allan i’r awyr agored unwaith eto; chi fydd y cyntaf i gael gwybod.

Yn y cyfamser, byddwch ddiogel, arhoswch adref a phwyll piau hi.

Comments are closed.