Diolch am helpu i achub afonydd Eryri!

Dros £5,300 wedi ei godi yn ein hapêl Achubwch Afonydd Eryri

Diolch yn fawr i bob un o’n haelodau, cefnogwyr a chyfeillion a gyfrannodd at ein hapêl Achubwch Afonydd Eryri. Rhynddoch chi, byddwch yn cyfrannu dros £ 5,300!

Roedd hwn yn hwb gwych i’n gwaith yn edrych ar geisiadau trydan dŵr. Roedd hi’n gwneud gwahaniaeth mawr i ni i wybod eich bod yn teimlo mor gryf am y bygwth hwn.

A diolch yn fawr iawn i Gyfoeth Naturiol Cymru

Diolch hefyd i Gyfoeth Naturiol Cymru am wrthod caniatáu trwyddedau tynnu a chadw dŵr ar gyfer y cynllun trydan dŵr 5MW ar Afon Conwy. Bydd Rhaeadr y Graig Lwyd, Ffos Anoddun a’r rhan 2km gwyllt a bendigedig hon o’r afon yn llifo’n ddirwystr am y tro.

Heddiw, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi eu penderfyniad hir-ddisgwyliedig ynghylch ceisiadau i gronni Afon Conwy a thynnu dŵr at ddibenion cynllun trydan dŵr llif afon.  Wedi bron iawn dwy flynedd o ystyried, mae NRW wedi gwrthod y ceisiadau – dyfynnir eu rhesymau isod.  Mae’r ddogfen lawn ar gael yma  

Mae’r datblygiad arfaethedig gan y cwmni ynni amlwladol RWE (yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thirfeddiannwr arall) eisoes wedi methu sicrhau caniatâd cynllunio ddwywaith.  Hyderwn y bydd y datblygiad hwn yn perswadio’r sefydliadau sydd dan sylw y dylent roi’r gorau i’w cynlluniau i’r afon wych hon.

Mae Cymdeithas Eryri yn cymeradwyo CNC am wneud y penderfyniad iawn.  Byddwn yn darparu dadansoddiad llawnach o’r materion a godir gan y datganiad ynghylch eu penderfyniad wedi’r gwyliau.

NRW: Conclusion and recommendation

NRW has chosen to refuse the application because the proposed abstraction regime does not comply with current NRW Hydropower Guidance (HGN2: Flow Standards) and not enough evidence has been provided by the applicant to justify such a deviation from naturalistic flows within the Afon Conwy. The resultant residual flow will lead to un-naturalistic flows which will have a greater risk of impact upon in river ecology and fish within the depleted reach.

The applicant has not provided sufficient details of the impacts of the proposal upon sediment transport throughout the depleted reach and potential mitigation. Further information provided by the applicant refers to a different approach to sediment management than that proposed within their Environmental Statement and NRW are unclear as to how this aspect will be managed.

In summary, these applications are being refused because of a lack of information regarding the following matters:

  • Impact upon in river ecology and fish within the depleted reach as a result of deviation from natural flows; and
  • Impact of the proposal upon sediment transport throughout the depleted reach and potential mitigation.

This information is necessary in order to ensure protection of the local water environment and to ensure compliance with the requirements of the Water Framework Directive. To licence such a scheme in the absence of the required detailed information would run contrary to the aims of the Water Resources Act 1991 and the Water Framework Directive.

Comments are closed.