Yn haf 2018, lansiodd Cymdeithas Eryri uned achrededig newydd mewn cynnal llwybrau. Mae’r uned hon yn eich galluogi i ddysgu ac arddangos eich medrau cynnal llwybrau troed – ac yn ychwanegiad defnyddiol i’ch CV. Mae’r uned hon yn ddelfrydol ar gyfer y sawl sy’n dymuno cael ffurf mwy ffurfiol o arddangos eu profiad ymarferol.
Wrth ymgymryd â’r uned hon, byddwch yn:
- Adnabod a chlirio draeniau a ffosydd wedi eu cau
- Codi sbwriel a’i arolygu
- Gwirio a glanhau offer cyn ei ddefnyddio ac ar ôl darfod.
Ychydig o waith papur sydd ei angen, a’r cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ysgrifennu paragraff fer am eich profiad.
Pryd alla’i gymryd rhan?
Dim ond am ddiwrnod mae’r uned hon yn parhau felly mae’n bosibl i unrhyw un ei chwblhau. Os bydd digon o ddiddordeb, mae’r dyddiadau canlynol, a gynhelir ar Yr Wyddfa, ar gael ar hyn o bryd (ond efallai y byddwn yn ychwanegu mwy yn ystod y flwyddyn):
- Dydd Gwener 28 Mehefin
- Dydd Mercher 17 Gorffennaf
- Dydd Mercher 28 Awst
Sut i wneud cais
Dydd Gwener 28 Mehefin:
Cysylltwch ag owain@snowdonia-society.org.uk cyn 9 y bore ar ddydd Llun 24 Mehefin
Dydd Mercher 17 Gorffennaf:
Cysylltwch ag owain@snowdonia-society.org.uk cyn 9 y bore ar ddydd Llun 15 Gorffennaf
Dydd Mercher 28 Awst:
Cysylltwch ag owain@snowdonia-society.org.uk cyn 9 y bore ar ddydd Llun 26 Awst
Diolch i’n noddwyr Cronfa Partneriaeth Eryri ac Waitrose, gallwn gynnig y gyfres o hyfforddiant yma am ddim. Fodd bynnag, ychydig o le sydd ar gael, a phe baech yn cael cynnig lle mi fyddai’n ofynnol i chi ymrwymo i fynychu’r diwrnod.