Cipolwg ar sut rydym ni’n cefnogi ein cyfeillion ym Mhensychnant yn ystod yr ynysu
Gan Julian Pitt, Cadeirydd, Cymdeithas Eryri
Tŷ gwledig hyfryd a gwarchodfa natur ger Conwy yw Pensychnant, sy’n cael ei reoli gan y warden
preswyl, Julian Thompson.
Mae gan Gymdeithas Eryri gysylltiad hir â Phensychnant – yno y cynhelir llawer o’n dyddiau hyfforddi a gwirfoddoli drwy gydol y flwyddyn. Yr hyn sy’n sicrhau bod diwrnod ym Mhensychnant yn brofiad gwerth chweil i bawb sy’n gwirfoddoli yno ydy cadwraeth ymarferol, paneidiau o de a sgyrsiau difyr.
Yn wir, ychydig cyn cyhoeddi’r cyfnod yma o ynysu treuliodd y Gymdeithas ddiwrnod yn plygu gwrych gyda grŵp o wirfoddolwyr: gan blannu dros 1000 o goed ifanc ar y warchodfa i hyrwyddo bioamrywiaeth. Ymlaen i heddiw, fodd bynnag, ac mae Pensychnant ar gau oherwydd yr haint Covid-19. Does dim mynediad i’r cyhoedd ac mae rhaglen grwpiau gwirfoddoli yr haf hwn wedi ei gohirio.
Er gwaethaf, hyn, rydw i wedi bod yn gwneud fy rhan dros Bensychnant yn fy nghartref wrth ail-gychwyn ar hen ddiddordeb o weithio gyda gwydr, gyda chynllun i greu ffenestr newydd ar gyfer prif neuadd y tŷ (Llun ar y dde).
Bydd y ffenestr orffenedig yn cynnwys tua dau fetr sgwâr o wydr – fy mhroject ffenestr mwyaf hyd yma! Ni fydd yn wydr lliw fel y gwelwch mewn eglwysi. Yn hytrach bydd y ffenestr yn cael ei chreu o wydr tawdd. Caiff hwn ei greu ar oddeutu 800⁰C wrth ddefnyddio odyn i doddi darnau o wydr lliw i mewn i ddarnau o wydr clir. Fel hyn, mae’r lliwiau a oleuir o’r cefn yn fwy dwys na’r rhai y gellir eu creu wrth eu staenio, fel y gwelwch yn y darn prawf isod.
Gellir hefyd fewnosod llythrennu i mewn i’r gwydr i greu arysgrifiad sy’n cael ei ysgrifennu mewn golau yn hytrach na’i baentio ar y gwydr ar ffurf llythrennu enamel du sy’n rhwystro golau.
Rydw i wedi bod yn cydweithio gyda warden y warchodfa Julian Thompson i greu cynllun terfynol a fydd yn cynnwys testun a delweddu. Hyd yma mae’n hollol gyfrinachol … heblaw am y cliwiau yn y delweddau a fydd yn cynnwys y gair ‘gwyn’ a’r motiff a ysbrydolir gan ddeiliach.
Gallwn ddweud y bydd y ffenestr yn dathlu byd natur a bydd yr arysgrifiad yn y Gymraeg yn herio’r darllenydd i ymuno mewn gweithgaredd i warchod ein bywyd gwyllt sydd o dan y bygythiad mwyaf.
Os bydd y creu a’r gosod yn digwydd yn ôl y cynllun, bydd y ffenestr yn ei lle ar gyfer tynnu ffotograff i’w gynnwys yng nghylchgrawn hydref y Gymdeithas.
Ond, yn llawer gwell, ewch draw i Bensychnant wedi i’r ynysu ddod i ben ac os bydd hi’n ddiogel i wneud hynny, ac ewch i weld y ffenestr wydr eich hun ar ôl mynd am dro o amgylch y warchodfa.