Diolch yn yr adegau ansicr yma!

Mewn cyfnod o ansicrwydd difrifol, mae tîm y Loteri Cod Post wedi gosod enghraifft rhagorol o gymorth pendant ar gyfer elusennau bach.

Yn gynharach eleni, dyfarnwyd grant i Gymdeithas Eryri gan Ymddiriedolaeth Cymunedol y Cod Post, elusen sy’n penodi grantiau a ariennir yn llwyr gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl. Bellach mae gan elusennau fel ni reswm arall i fod yn ddiolchgar.

Mewn ymateb i’r sefyllfa heriol sy’n wynebu llawer o elusennau rŵan o ganlyniad i ledaeniad y Coronafeirws, mae Ymddiriedolaeth Cymunedol y Cod Post wedi penderfynu codi’r cyfyngiadau ar grantiau y maen nhw wedi eu dyfarnu. Bydd hyn yn galluogi elusennau i wario’r arian hwnnw lle mae fwyaf ei angen; bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ni ac fe all rwystro rhai cyrff rhag gorfod rhoi’r gorau i weithredu.

Bydd angen elusennau arnom fwy nag erioed o’r blaen pan fydd y cyfan drosodd, felly gobeithiwn y bydd noddwyr eraill yn dangos yr un doethineb a phenderfyniad.

Dengys y gweithredu hwn gwir ddealltwriaeth Ymddiriedolaeth Cymunedol y Cod Post o realiti’r sefyllfa i elusennau llai. Mae’n golygu y gallwn addasu sut byddwn yn gweithio rŵan a sut byddwn yn paratoi ar gyfer y cyfnod pan fydd y cyfyngiadau’n dod i ben. Rydym yn edrych ymlaen at baratoi fel ein bod yn barod i fynd i’r afael â’n gwaith yn syth bin pan fydd bywyd fel arfer unwaith eto.

Pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, byddwn yn creu mwy o gyfle nag erioed i drwsio llwybrau, clirio a lleihau sbwriel, mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol a rheoli cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, ynghyd â rhaglen o hyfforddiant a digwyddiadau amrywiol a chyffrous.

 

Comments are closed.