Gŵyl wlyb yn denu hen wragedd a ffyn!

Gŵyl wlyb yn denu hen wragedd a ffyn!

Dydd Sadwrn diwethaf fe gasglodd dros 60 aelod o Gymdeithas Eryri dan babell yn y glaw yn fferm Dyffryn Mymbyr i ddathlu ein pen-blwydd swyddogol yn 50: pumdeg mlynedd yn union i ddyddiad ein cyfarfod cyntaf yn Neuadd Goffa Betws y Coed ar 10 Mehefin 1967.

Cafodd aelodau, ffrindiau a staff y Gymdeithas y siawns i gofio Esmé Kirby a dyddiau cynnar y Gymdeithas wrth fwynhau panad a llwyth o gacennau. Roedd y siaradwyr yn cynnwys ffrind ag Ymddiriedolwr y Gymdeithas Bob Lowe; ein cyn Gyfarwyddwr Rory Francis; ac un o’n Haelodau Busnes newydd Kate Worthington o RAW Adventures, Eryri.

Roedd hefyd cyfle i fynychwyr gael cipolwg ar ein harddangosfa hanner canmlwyddiant 50 Mlynedd ac Ymlaen y tu fewn i’r ffermdy. Fe wnaeth enillwyr y cystadleuaeth cacennau gael eu cyhoeddi’n fri gan Libby Worthington, 8 oed, a’u cyflwyno gyda gwobrau yn cynnwys copi o’r llyfr enwog I Bought a Mountain gan Thomas Firbank.

Er gwaethaf y glaw cafodd pawb ddiwrnod gwych ac roedden yn falch iawn i ddathlu 50 mlynedd o waith caled yn y Parc Cenedlaethol. Edrychem ymlaen at y 50 nesaf!

marquee gathering cake fun exhib

Lluniau, clocwedd o chwith uchaf: Mynychwyr yn gwrando i ddarlithoedd yn y babell; cacen pen-blwydd yn 50 wedi’i greu gan aelod Joan Firth; Atgofion a sbri gydag aelodau hen a newydd; cipolwg ar ein harddangosfa pen-blwydd yn 50.

Trowch at ein calendr o ddigwyddiadau ar lein YMA a sicrhewch eich bod yn cymryd rhan y ein digwyddiadau eraill yn 2017. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn fuan.

 

 

Comments are closed.