Cynllun £4 miliwn yn dod ar ‘amser tyngedfennol’ i dreftadaeth a chymunedau lleol y Carneddau.

Mae Cymdeithas Eryri yn falch o fod yn bartner craidd – gan helpu i lunio a llywodraethu’r project – ac yn bartner gwireddu – gan fwrw iddi yn ymarferol a helpu i sicrhau bod pethau’n digwydd! Byddwn yn cynnal teithiau, sgyrsiau a digwyddiadau i wirfoddolwyr ac yn cefnogi’r bartneriaeth lle bynnag bod hynny’n bosib. Rydym yn awyddus i helpu i gefnogi cymunedau lleol i fynd i’r afael â jac-y-neidiwr; rhywogaeth anfrodorol sydd wedi ymledu dros rannau o’r ardal project. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gynorthwyo i glirio prysgwydd o safleoedd archeolegol – cangen cyffrous newydd o’n gwaith gwirfoddol.

Mae cynllun newydd sy’n ymrwymo i warchod a dathlu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol ardal y Carneddau yn lansio’n swyddogol ar-lein dydd Mercher 14 Hydref 2020.  Gyda chymorth Cronfa Treftadaeth y Loteri, mae partneriaeth o sefydliadau yn cyflwyno cynllun 5 mlynedd i helpu pobl i ddarganfod, amddiffyn a dathlu’r Carneddau.

Mae’r ardal yn gartref i anifeiliaid a phlanhigion prin, gan gynnwys rhywogaethau eiconig fel y frân goesgoch a merlod y Carneddau, yn ogystal â chynefinoedd bregus fel rhostir y mynydd – twndra Cymru. Mae yna hefyd dystiolaeth o weithgaredd dynol yn dyddio yn ôl miloedd o flynyddoedd, ac mae’r olion hyn o bwys rhyngwladol.

Mae’r dirwedd unigryw hon dan bwysau gan newid hinsawdd, newidiadau mewn patrymau defnydd tir, rhywogaethau ymledol a phwysau pobl. Mae gwybodaeth draddodiadol, enwau lleoedd a straeon sy’n cysylltu pobl â’r dirwedd hefyd mewn perygl o gael eu colli.

Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau – casgliad o sefydliadau sydd wedi dod ynghyd dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – wedi datblygu cynllun i helpu hyrwyddo dyfodol cadarnhaol i’r ardal. Wrth wraidd y cynllun mae gweledigaeth i helpu cynulleidfa mor eang â phosibl i ddarganfod, gwarchod a dathlu’r Carneddau.

Bydd y cynllun yn helpu gwarchod treftadaeth yr ardal trwy hyrwyddo defnydd tir cynaliadwy sy’n amddiffyn cynefinoedd, rhywogaethau ac olion archeolegol prin, a thrwy gofnodi enwau lleoedd ac atgofion. Bydd grant o £1.7 miliwn gan Gronfa Treftadaeth Genedlaethol y Loteri yn helpu i gyflawni’r cynllun, gwerth dros £4 miliwn.

Dywedodd Dr Marian Pye, Rheolwr Partneriaeth Tirwedd y Carneddau: Mae’r cyfnod clo wedi amlygu pwysigrwydd y dirwedd sydd ar ein stepen drws. Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn gasgliad o sefydliadau sy’n angerddol am wella dealltwriaeth a rheolaeth o’r dirwedd werthfawr hon.

‘Nid oes amheuaeth bod y cynllun yn lansio ar amser heriol. Fel partneriaeth byddwn yn edrych ar ffyrdd newydd o weithio i sicrhau y gallwn i gyd mwynhau rhinweddau arbennig y Carneddau. 

 Dywedodd Cadeirydd y Bartneriaeth, Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor:   ‘Mae lansiad Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn dod ar amser tyngedfennol i gymunedau gwledig yr ardal.’ Bydd y cynllun yn cynnig cyfleoedd cyffrous i gyd-weithio i reoli tir mewn modd cynaliadwy ac ar yr un pryd i ddathlu arferion traddodiadol. Bydd y Bartneriaeth yn gweithio i sicrhau bod diwylliant, straeon ac enwau lleoedd y Carneddau yn cael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.’

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

‘Natur yw ein ffurf hynaf o dreftadaeth ac mae’n bleser gan Gronfa Loteri Genedlaethol Cymru i gefnogi Partneriaeth Tirwedd y Carneddau.’

‘Fel un o arianwyr blaenllaw’r sector dreftadaeth yng Nghymru, rydym yn croesawu ac yn cefnogi amcanion y bartneriaeth o ddiogelu treftadaeth fregus y Carneddau ar gyfer y dyfodol a rhoi cyfle i gynulleidfa mor eang â phosib i ddarganfod, gwarchod a dathlu’r Carneddau.’

Dywedodd y Prifardd, Ieuan Wyn:  ‘Mae Cynllun Tirwedd y Carneddau yn gyfle i ni warchod a chyfrannu i atgyfnerthu’r bywyd Cymreig, hyrwyddo’r ofalaeth o’r amgylchedd naturiol, a chyfoethogi ymhellach yr etifeddiaeth i’w throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol’

 Am fwy o wybodaeth am y cynllun ewch i: https://www.snowdonia.gov.wales/looking-after/carneddau-partnership 

I fynychu digwyddiad lansiad ar-lein Partneriaeth Tirwedd y Carneddau: https://www.eventbrite.co.uk/e/121335639163/

Comments are closed.