Ddydd Gwener 5 Chwefror, bydd Aelod y Cynulliad dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, yn derbyn deiseb â dros 6,000 o enwau ynddi, i’w chyflwyno’n bersonol i Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfoeth Naturiol. Mae’r ddeiseb yn gofyn iddo sicrhau fod Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Anoddun yn cael eu gwarchod rhag datblygu.
Caiff y ddeiseb ei throsglwyddo gan gynrychiolwyr gwaith cadwraeth, gweithgareddau awyr agored, chwaraeon dŵr a busnesau lleol. Bydd y sawl fydd yn bresennol yn cynnwys Cyfarwyddwyr Cymdeithas Eryri ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Swyddog Cyfathrebu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau, a chynrychiolwyr swyddogol Canŵ Cymru.
Mae gwaith pŵer trydan dŵr ar Afon Conwy sydd wedi’i gynnig gan y cwmni ynni amlwladol enfawr, RWE, wedi cythruddo pysgotwyr, canŵ-wyr, cadwraethwyr a busnesau lleol. Mae dros 800 o lythyrau gwrthwynebu wedi cael eu hanfon at y Pwyllgor Cynllunio a channoedd yn rhagor at Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gyfrifol am drwyddedu’r gwaith o dynnu dŵr o’r afon.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri John Harold:
“Rydym ni wedi datgan yn glir wrth y Pwyllgor Cynllunio ac wrth Gyfoeth Naturiol Cymru fod pobl yn dymuno gweld Rhaeadr y Graig Lwyd a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Ffos Anoddun yn cael eu gwarchod yn briodol. Mae’n galonogol gweld bod ein cwestiynau bellach yn cael eu harchwilio’n haeddiannol.
Mae’r ddeiseb hon, a lofnodwyd gan dros 6,000 o bobl, yn cyfleu neges bwysig i’r Gweinidog dros Gyfoeth Naturiol: bod llawer iawn o bobl yn gwerthfawrogi safleoedd gwarchodedig fel SoDdGA Ffos Anoddun ac yn gwerthfawrogi tirweddau dynodedig megis Parc Cenedlaethol Eryri. Maent yn llefydd gwyllt sydd o wir bwys i ni, nid cyffindir yn y Gorllewin Gwyllt sy’n barod i gael ei ddatblygu er lles cwmnïau amlwladol. Dyma lefydd ble gall y genedl anadlu, llefydd i gael adfywiad, ein GIG yn yr awyr agored.”