Bydd dros 10 miliwn o ymwelwyr yn troedio llwybrau troed Eryri bob blwyddyn; bydd rhywfaint o waith cynnal a chadw bob amser yn llesol, ac mae ein gwirfoddolwyr ar gael i gynnig help llaw. Bydd yr Wyddfa ei hun, sef mynydd uchaf Cymru a Lloegr ac un o’r safleoedd pot mêl hynny, yn denu oddeutu hanner miliwn o gerddwyr bob blwyddyn. Mae nifer mor fawr o ymwelwyr yn wych i’r economi leol, ond mae goblygiadau eraill i’w hystyried…
Y broblem?
Bydd pob ymwelydd â’r Wyddfa yn achosi ychydig bach o erydiad ar lwybrau troed, felly bydd effeithiau cyfunol cymaint o gerddwyr dros y blynyddoedd yn golygu cyfanswm sylweddol iawn o effeithiau yn gyflym. O ganlyniad, gall llwybrau troed orlifo sy’n golygu fod pobl yn mentro oddi ar y llwybr – rhywbeth peryglus iddynt hwy a’r amgylchedd.
- Caiff cynefinoedd uwchdirol pwysig eu sathru gan gerddwyr yn mentro oddi ar y llwyr.
- Caiff timau Achub Mynydd eu galw i gynorthwyo nifer o gerddwyr coll, ac mae hyn yn golygu oblygiadau difrifol i ddiogelwch pobl (cerddwyr ac achubwyr) ac mae cost ariannol yn gysylltiedig â hynny.
- Mae cynnal a chadw llwybrau troed yn gostus o ran amser ac arian.
- Mewn rhai mannau, bydd rhai ymwelwyr yn gadael mwy nag olion eu traed – gan arwain at broblemau sbwriel mewn rhai mannau, ond problemau difrifol serch hynny.
Beth fydd ein gwirfoddolwyr yn ei wneud i helpu?
Bydd Cymdeithas Eryri yn gweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gynnal a chadw llwybrau troed yr Wyddfa yn systematig. Rydym ni wedi gweithio ar lwybrau PYG a’r Mwynwyr, ac yn Rhyd Ddu ac ar lwybr Llanberis. Mae’r tasgau yn cynnwys:
- Cloddio/clirio ffosydd, i annog dŵr i adael y llwybr
- Clirio carneddau
- Ailadeiladu llwybrau troed; symud cerrig yn ôl i’w lle
- Casglu sbwriel (darllenwch am ein Prosiect Wyddfa Lân i gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith casglu sbwriel)
- Clirio creigiau bychan a graean, i sicrhau fod y llwybrau yn llai llithrig ac i wella traeniad
Dan yr amgylchiadau hyn, bydd gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad pwysig at ddull gweithredu ecosystem. Bydd eu gwaith yn golygu fod:
- Llwy brau troed yn aros mewn cyflwr da, sy’n golygu fod cerddwyr yn llai tebygol o fentro oddi ar y llwybr (sy’n llesol i gynefinoedd uwchdirol a hefyd yn helpu pobl i fwynhau’r Wyddfa yn ddiogel).
- Diolch i’r nifer o oriau gwaith a gyfrannir yn hael gan ein gwirfoddolwyr, arbedir arian, e.e. i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Ar adeg o newid, â thoriadau yn cael eu gwneud, mae hyn yn bwysicach nag erioed.