Rhestr Fer Gwobr ‘Park Protector’ yn dathlu prosiect yn Eryri.

Mae ein prosiect gwirfoddoli wedi cael ei gynnwys ar restr fer Gwobr Amddiffynnydd y Parc gan yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol.

Mae prosiect ym Mharc Cenedlaethol Eryri wedi’i gynnwys yn rhestr fer gwobr flynyddol ‘Park Protector’ gan yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol.  Mae Help Llaw Eryri yn un o blith pum prosiect sydd wedi’u cynnwys yn rhestr fer y wobr fawreddog hon.

Mae gwirfoddolwyr wedi cyfrannu bron iawn 11,000 awr o waith ers 2015 i wneud gwahaniaeth enfawr i dirweddau poblogaidd ac arbennig Eryri.  Mae’r prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth i un o Barciau Cenedlaethol Cymru, yn cynnwys cynnal a chadw llwybrau troed poblogaidd neu’n ennyn diddordeb grwpiau ysgolion a grwpiau Cybiau ac Afancod y Sgowtiaid, ac mae hefyd yn cynnig hyfforddiant a chymwysterau wedi’u hachredu i’w wirfoddolwyr.

Dywedodd Mary-Kate Jones, un o staff y prosiect: “Bydd ein gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed iawn i amddiffyn, cynnal a dysgu am Barc Cenedlaethol Eryri.   Bydd ein gwirfoddolwyr bob amser ar gael i gynnig help llaw â phopeth o gynnal a chadw llwybrau poblogaidd i glirio rhywogaethau ymledol!   Rydym wrth ein bodd ac yn falch iawn fod eu gwaith caled wedi arwain at gynnwys y prosiect yn rhestr ger Gwobr ‘Park Protector’.

Mae’r prosiectau eraill sydd ar y rhestr fer yn cynnwys prosiect i amddiffyn coetiroedd ym Mharc Cenedlaethol New Forest, adfer cors ym Mharc Cenedlaethol Dartmoor, prosiect ynghylch dalgylch afon ym Mharc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog a phrosiect cadwraeth yn White Peak ym Mharc Cenedlaethol Peak District.

Dywedodd Andrew Hall o’r Ymgyrch dros y Parciau Cenedlaethol: “Mae’r rhestr fer wych hon yn adlewyrchu safon anhygoel yr ymgeiswyr ac ymroddiad pobl o bob cwr o Gymru a Lloegr i’w Parciau Cenedlaethol.  Mae’r Parciau wynebu llawer o heriau, ond bob blwyddyn, bydd Gwobr ‘Park Protector’ yn fy atgoffa fi o ddyfnder teimladau sy’n bodoli tuag at dirweddau gorau Cymru a Lloegr.”

Cyhoeddir enw’r prosiect buddugol mewn derbyniad yn y Senedd ym mis Hydref, a bydd hefyd yn ennill cyfraniad o £2,000 at ei waith, a bydd gwobr o £500 i brosiect sy’n cael canmoliaeth sylweddol hefyd.  Bydd Julian Glover, sy’n arwain adolygiad y Llywodraeth ynghylch tirweddau dynodedig Lloegr, yn bresennol yn y derbyniad yn y senedd.

Unwaith eto, cefnogir y Wobr gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ramblers Holidays.  Dywedodd Stephen Ross o’r Ymddiriedolaeth: “Mae’r prosiectau sydd wedi ymgeisio eleni am Wobr ‘Park Protector’ unwaith eto yn cwmpasu amrywiaeth o waith o gadwraeth i wella mynediad a darganfod technegau rheoli tir hynafol.  Roedd y ceisiadau yn amlygu brwdfrydedd gwirfoddolwyr sy’n barod i gyfrannu eu hegni a’u hamser i ychwanegu at fwynhad pob eraill sy’n ymweld â’n Parciau Cenedlaethol.”

Comments are closed.