Caffi Penceunant yn porthi gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri ar fynydd prysuraf Eryri

Caffi Penceunant yn porthi gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri ar fynydd prysuraf Eryri

Hoffai Cymdeithas Eryri fynegi ei diolch i Rob a Steffan yng Nghaffi Penceunant ar y Wyddfa am eu haelioni tuag at wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yr haf hwn yn ystod y cynllun codi sbwriel Croeso’n Ôl.

Meddai Steffan Roberts, perchennog Caffi Penceunant ar y Wyddfa:

“Roeddem yn meddwl y byddai’r mynydd yn dawelach yr haf hwn oherwydd y feirws, ond i ddweud y gwir mae hi wedi prysuro. Mae llawer o’r rhai sy’n dod i’r Wyddfa’n wynebau newydd, rhai erioed wedi treulio amser yng nghefn gwlad o’r blaen. Mae hynny’n dod â’i broblemau ei hun ac mae angen annog rhai ymwelwyr i werthfawrogi a pharchu ein amgylchedd. Dydy hynny ddim wedi bod yn hawdd bob tro, ond yn gyffredinol mae’n galonogol gweld cymaint yn darganfod yr harddwch ar riniog eu drws.”

Meddai Dan Goodwin, Swyddog y Project: “Rhoddwyd lluniaeth fel paneidiau o de a bara brith yn rheolaidd i’n gwirfoddolwyr hyd yn oed pan oedd y caffi’n brysur dros ben.”

Ychwanegodd: “Fe wnaeth y rhoddion caredig yma wahaniaeth mawr i egni ac ymrwymiad y gwirfoddolwyr a ddychwelodd yn dilyn y clo mawr, felly hoffem ddweud ‘diolch o’r galon’ i Steffan a Rob.”

Ychwanegodd Steffan:

“Mae hi wedi bod yn wych cyfarfod cymaint o aelodau’r Gymdeithas dros yr haf hwn, ac rydym yn falch bob amser o gymryd y sbwriel a gasglwyd ganddyn nhw. Mae’n golygu mwy na chadw’r mynydd yn glir o sbwriel. Mae’n dangos i bawb bod hyn yn bwysig, ac yn ysgogi ymwelwyr i wneud yr un fath, yn enwedig y cenedlaethau iau sy’n teimlo’n fwy angerddol dros yr argyfwng amgylcheddol.”

“Dydy hi ddim wedi bod yn hawdd i lawer o bobl yn ystod yr argyfwng hyd yma, ac mae’n debyg y byddwn yn gorfod dygymod â’r ffordd yma o fyw, am rŵan be bynnag. Ond dyna lle mae y Wyddfa’n bwysig gan ei fod yn barhaol, yn angor. Dyma wir ffrind.”

Comments are closed.