Deuddeg enillydd cystadleuaeth ffotograffiaeth wedi eu dewis ar gyfer calendr 2020
Bydd deuddeg enillydd Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 2019 Cymdeithas Eryri yn gweld eu lluniau o Eryri’n cael eu cyhoeddi mewn calendr ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Ar ôl dethol lluniau priodol, dewiswyd y lluniau buddugol gan feirniad y gystadleuaeth, Ray Wood, y gohebydd a ffotograffydd adnabyddus sy’n gweithio yng ngogledd Cymru.
O’r deuddeg enillydd a ddaeth i’r brig, dyfarnwyd y wobr gyntaf, ail a thrydydd am lwyddo i gyfleu naws thema’r gystadleuaeth ‘Eryri Gudd’ yn eu ffotograffau. Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Gareth Jones am ei lun o foda tinwen yn glanio; yr ail wobr i Jesal Hirani am ei chacwn mewn blodau grug; a’r drydedd wobr i Ivo Fiser am ei lun breuddwydiol o grib mynydd drwy gwmwl.
Bydd pob un o’r deuddeg llun yn cael eu dangos mewn calendr ar gyfer 2020 a fydd yn mynd ar werth y mis nesaf er mwyn cefnogi gwaith Cymdeithas Eryri o warchod harddwch y Parc Cenedlaethol.
Mae Cymdeithas Eryri yn ddiolchgar i’r Aelodau Busnes canlynol am roi gwobrau i enillwyr y gystadleuaeth: