nol ir arciffProsiect Cadwraeth Eryri
![]()
Diwrnod Gwaith Awst 2011
Dydd Iau 4 Awst - clirio’r Ffromlys Chwarennog, Y Bala
Cynllun gwaith: Bydd Warden Parc Cenedlaethol Eryri yn ein cynorthwyo i glirio’r Ffromlys Chwarennog o’r afonydd sy’n llifo i Lyn Tegid. Bydd hyn yn atal y planhigyn estron hwn rhag hadu rhagor o hadau. Hon yw’r adeg orau i dynnu’r planhigion o’r dŵr, a byddwn yn gwneud hynny gyda’n dwylo. Dyma’r ffordd sicraf o wneud yn saff nad ydyn nhw’n tyfu’n ôl. Mae’n golygu hefyd na fydd yn rhaid defnyddio cemegau.
Cyfarn fod: 10yb yswyddfa Warden y Llyn yn Y Bala. Cyfeirnod: SH 355 922. Mae’r swyddfa ger yr A494 ar lannau’r llyn, ewch i gyfeiriad y de orllewin o dref Y Bala.
Dewch â: cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Bydd offer a menig ar gael.
Dydd Mawrth 11 Awst – Glanhau Traeth Criccieth
Byddwn yn clirio’r traeth sydd i’r dwyrain o Gastell Criccieth. Mae hwn yn foddfa o ysbwriel y mae’r môr wedi ei adael ar ei ôl. Jenny yn arwain tîm o grwydrwyr i fforio’r pyllau glan môr i weld pa fath o rywogaethau sy’n byw o dan y cerrig ac yng nghanol y gwymon!
Cyfarfod am 10yb: wrth ymyl Caffi Moranedd ar ochr Ddwyreiniol y promenâd yng Nghricieth SH511384 (mae’r caffi yn eiddo i CADW ac yn adeilad hanesyddol) Caffi a Chwrs Golff, Criccieth LL52 0HU. Ffôn 01766 522773.
Dewch â: Cinio, dillad glaw, digon o ddillad cynnes ac esgidiau cryfion. Bydd offer a menig ar gael.
Dydd Sul 14 Awst Gwyl Haf, Ty Hyll 11-4
Ymunwch â ni yn y ffair haf am ddiwrnod creadigol llawn hwyl i godi arian ar gyfer Cymdeithas Eryri. Byddwn yn gwerthu planhigion a llysiau cynnar, anrhegion wedi eu hailgylchu, crefftau a lluniaeth. Bydd yna hefyd weithgareddau i’r plant yng ngerddi hardd Tŷ Hyll.
Mae angen eich cymorth arnom ni i wneud y diwrnod yma yn un i’w chofio. Rydym ni’n chwilio am y canlynol:
• Cymorth ar y stondin lluniaeth
• Cacennau, llyfrau ail-law a hadau i ni eu gwerthu ar y stondinau.
• Rhywun sy’n chwarae mewn band a hoffai ganu i ni yn ystod y diwrnod.
• Rhywun all gynnal gweithgaredd i blant neu oedolion. E.e. teithiau o amgylch Tŷ Hyll, helfa chwilod, gweithgareddau i blant, gweithgareddau crefft (mae gennym ni arddangosfa nyddu a gwnïo). Felly os ydych chi’n grochenydd, yn wehydd basgedi neu’n gweithio â choed efallai yr hoffech chi arddangos eich crefft.
• Cymorth gyda gosod y stondinau a pharatoi Tŷ Hyll ar gyfer y diwrnod arbennig.
Dydd Sadwrn 27 Awst– Sadwrn ‘Gwnewch hi’, Dolwyddelan
‘Gwnewch hi’ yn hytrach na’I ‘phrynu hi’ un diwrnod pob mis, gan ddysgu sgiliau cynaliadwy. Ymunwch â ni am weithgareddau hwyl! Cysylltwch â Bea am fanylion pellach.
Os gwelwch yn dda: Os ydych chi am ddod i unrhyw un o’r diwrnodau uchod a fyddech chi mor garedig â chadarnhau hynny drwy gysylltu gyda’n swyddfa newydd yn Y Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, LL55 3NR, ar 01286 685498, neu drwy e-bostio Jenny Whitmore, Cynorthwy-ydd Prosiect Cadwraeth Eryri, jenny@snowdonia-society.org.uk (ynglŷn â’r diwrnodau gwaith), neu Bea Kelsall SPCE bea@snowdonia-society.org.uk (ynglŷn â’r gweithgareddau grŵp/cymunedol). Cofion Gorau
Jenny a Bea









