nol ir arciffDiwrnodau Gwaith mis Ionawr 2011
Dydd Sul Ionawr y 30ain Parti Blwyddyn Newydd!
|
♣♣♣♣♣♣ GWAHODDIAD ♣♣♣♣♣♣ Parti Blwyddyn Newydd Cymdeithas Eryri yn Neuadd Gymunedol Capel Curig 12:30 – 4:00yp Cinio bwffe Cerddoriaeth gan Hero Melia o rhaglen teledu "Must Be The Music" Storïau gan Fiona Collins Cyn dangos y ffilm..... "Vanishing of the Bees"
|
Bwriad y digwyddiad ydi diolch i chi am eich amser, eich ymdrech a’ch brwdfrydedd wrth wirfoddoli gyda ni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mi fydd hefyd yn gyfle da i ni sôn am y hyn rydym ni i gyd wedi ei wneud i wella pethau yn Eryri ac am y cyfleoedd newydd sydd ar y gorwel.
Rydym ni’n gobeithio’n fawr y gallwch chi ymuno â ni. Bydd yn bnawn o fwyta, adloniant, cymdeithasu a chwmni enwogion Cymreig. Bydd yna ffilm i’w wylio hefyd sy’n siŵr o ysgogi meddwl a thrafodaeth. A bydd yna’r un siaced lachar na maneg ledr ar gyfyl y lle!
Dim gwaith oherwydd y tywydd drwg. Cynhelir y diwrnod gwaith wynthnos nesaf.
Y cynllun gwaith: Bydd grŵp o fyfyrwyr Coleg Menai yn ymuno â ni fel rhan o’u cwrs Bagloriaeth Gymreig i glirio mwy eto o’r perthi Rhododendron sydd o gwmpas Hostel Bryn Gwynant. Byddwn ni'n parhau i glirio o gwmpas yr Hostel ac yn dechrau creu llwybr gwag 7 medr o led yno gyda'r bwriad o rwystro hadau rhag gwasgaru i fyny ochr y mynydd. Yna byddwn ni'n codi coelcerthi i losgi’r tyfiant y byddwn ni wedi ei glirio. Dewch draw, yn enwedig os na fuoch chi i'r Hostel o’r blaen - mae o'n lle gwerth ei weld!
Cyfarfod am 10:00yb ym maes parcio Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant, Nant Gwynant, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4NP. SH644514. O Feddgelert ar yr A498 i gyfeiriad Pen y Gwryd, mae’r Hostel ar y dde wrth i chi gyrraedd y llyn, sydd ar y chwith. Edrychwch am yr arwyddion.
Dewch â: Chinio a diod gynnes, dillad cynnes, hen, a dillad dal dŵr. Rydym ni'n argymell i chi wisgo esgidiau cryfion neu esgidiau glaw.
Diwrnodau Gwaith mis Ionawr 2011
Does yna ddim diwrnod gwaith ar ddydd Mawrth cyntaf mis Ionawr gan ei fod o'n agos at y flwyddyn newydd ac i'r diwrnodau gwaith eraill sydd gennym ni ar y gweill. Rydym ni'n parhau i sefydlu cysylltiadau â cholegau, grwpiau hyfforddi a sefydliadau eraill - sy'n golygu y bydd gennym ni nifer fawr o wirfoddolwyr o’r sefydliadau hynny'n ymuno â ni yn y misoedd nesaf. Bydd hyn yn ein galluogi ni i wneud y defnydd gorau posib o'r diwrnodau gwaith a gwneud gwahaniaeth mwy sylweddol i'r Parc.
Dydd Mercher y 12fed a dydd Iau 13eg o fis Ionawr, Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant – Clirio Perthi Rhododendron!
Y cynllun gwaith: Bydd grŵp o fyfyrwyr Coleg Menai yn ymuno â ni fel rhan o’u cwrs Bagloriaeth Gymreig i glirio mwy eto o’r perthi Rhododendron sydd o gwmpas Hostel Bryn Gwynant. Byddwn ni'n parhau i glirio o gwmpas yr Hostel ac yn dechrau creu llwybr gwag 7 medr o led yno gyda'r bwriad o rwystro hadau rhag gwasgaru i fyny ochr y mynydd. Yna byddwn ni'n codi coelcerthi i losgi’r tyfiant y byddwn ni wedi ei glirio. Dewch draw, yn enwedig os na fuoch chi i'r Hostel o’r blaen - mae o'n lle gwerth ei weld!
Cyfarfod am 10:00yb ym maes parcio Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant, Nant Gwynant, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4NP. SH644514. O Feddgelert ar yr A498 i gyfeiriad Pen y Gwryd, mae’r Hostel ar y dde wrth i chi gyrraedd y llyn, sydd ar y chwith. Edrychwch am yr arwyddion.
Dewch â: Chinio a diod gynnes, dillad cynnes, hen, a dillad dal dŵr. Rydym ni'n argymell i chi wisgo esgidiau cryfion neu esgidiau glaw.
Dydd Mercher, Ionawr y 19eg 2011 Gweithdy Trowch o i lawr! gyda Chlwb Ieuenctid Dolwyddelan
Bydd Bea yn mynd i Glwb Ieuenctid Dolwyddelan rhwng 6:30yh a 8:30yh ar Ionawr y 19eg i ddangos pa mor hawdd ydi hi i ailgylchu hen ddefnyddiau ac i wneud bagiau am oes. Buaswn yn ddiolchgar iawn o gael cymorth rhywun i gario a gosod y peiriannau gwnïo. Buaswn hefyd yn gwerthfawrogi help llaw unrhyw wirfoddolwyr sy’n rhydd i ddod draw i ysbrydoli’r bobl ifanc; does dim rhaid i chi allu gwnïo - yr hyn sydd ei angen ydi pobl i oruchwylio’r plant a’u denu i gymryd rhan yn y diwrnodau gwaith eraill sydd ar y gweill gennym ni.
Dydd Mercher y 19eg a dydd Iau'r 20fed o Ionawr DIWRNODAU GWAITH I’W CADARNHAU
Bydd myfyrwyr o Goleg Menai yn dod i’r naill ddiwrnod a'r llall. Byddwn ni'n cadarnhau'r manylion, a'r union waith, yn ystod yr wythnosau nesaf. Fe allen ni fod yn gweithio ar lwybrau Capel Curig neu’n clirio conwydd ym Metws y Coed.
Dydd Mawrth, Ionawr y 25ain 2011 Gwneud bagiau efo Ysgol Gynradd Capel Garmon
Bydd angen rhywfaint o gymorth arnom ni i osod yr offer ac i oruchwylio’r plant - mae 14 plentyn a dau athro yn yr ysgol. Roedd ein hymweliad diwethaf ag ysgol gynradd yn wych, ond gan nad dim ond Margaret Thomas a Bea oedd yno roedden nhw dan gryn bwysau! Buasem ni wrth ein bodd yn cael gwneud y diwrnod yn un arbennig a chofiadwy i’r plant - bu’n rhaid gohirio’r ymweliad gwreiddiol ar Dachwedd y 26ain oherwydd yr eira. Felly, mwyaf i gyd o wirfoddolwyr sydd gennym ni, gorau i gyd - does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar wnïo gyda pheiriant, ond dewch â thomen o frwdfrydedd! Mae plant yr ysgol wedi dechrau cwmni bwyd cydweithredol yno’n diweddar, a’r bwriad ydi gwneud bagiau ar gyfer cario’u llysiau gartref. Bydd rhai o’r plant yn rhy ifanc i wneud bag cyfan, felly bydd gennym ni fagiau plaen parod iddyn nhw eu paentio a’u haddurno gyda defnyddiau. Felly dewch â glud a dychymyg... byddwn ni’n mynd yno erbyn 9:30 y bore i baratoi ac yn dechrau arni am 10.
Dydd Sadwrn, Ionawr y 29ain 2011 – diwrnod gwaith Byw’n Gynaliadwy ‘Trowch o i lawr!’
Lleoliad i’w gadarnhau!
Cofiwch gysylltu:
Os oes gennych chi awydd dod i unrhyw un o'r digwyddiadau uchod, a fyddech chi mor garedig â gadael i ni wybod. Ffoniwch ni yn ein swyddfa newydd: Y Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, LL55 3NR, ar 01286 685498, neu e-bostiwch Jenny Whitmore Cynorthwy-ydd Prosiect Cadwraeth Eryri, ar jenny@snowdonia-society.org.uk. I holi am weithgareddau grŵp neu gymunedol cysylltwch â Bea Kelsall, Swyddog Prosiect Cadwraeth Eryri ar bea@snowdonia-society.org.uk.
Dymuniadau gorau,
Jenny a Bea









