nol ir arciffGwyliau’r Pasg a’r Arwerthiant Blanhigion – rydym angen cymorth gwirfoddolwyr!

Gwyliau’r Pasg a’r Arwerthiant Blanhigion – rydym angen cymorth gwirfoddolwyr!

Gwyliau’r Pasg a’r Arwerthiant Blanhigion – rydym angen cymorth gwirfoddolwyr!

Gwener 2 Ebrill – Llun 5 Ebrill – Pasg
Sadwrn 15 Mai – Sul 16 Mai – Arwerthiant blanhigion

Mae Cymdeithas Eryri’n chwilio am gymorth gwirfoddolwyr dros y Pasg i redeg y ganolfan ymwelwyr yn y Tŷ Hyll.  Byddai profiad o drin arian a delio ag aelodau o’r cyhoedd yn gymorth.
Cysylltwch â’r swyddfa ar 01690 720287 os oes gennych ychydig o oriau neu fwy i’w cyfrannu.

Hefyd byddwn yn cynnal yr Arwerthiant Blanhigion flynyddol dros ddau ddiwrnod eleni, gyda gweithgareddau estynedig.  Mae arnom angen cymorth ar y ddau ddiwrnod, i ddelio ag aelodau o’r cyhoedd, lluniaeth a chynnal gweithgareddau.  Mae arnom angen cymorth hefyd gyda’r trefniadau yn yr wythnosau cyn y digwyddiad.  Unwaith eto, cysylltwch â’r swyddfa os oes modd i chi helpu.

Diolch i bawb ymlaen llaw.  Mae hwn yn ddigwyddiad poblogaidd felly beth am wneud yn siŵr mai dyma’r gorau eto?