nol ir arciffY Gaeaf: tymor arbennig yn Eryri.

Y Gaeaf: tymor arbennig yn Eryri.

Wrth lunio ein rhaglen o deithiau cerdded rhwng chwech a deuddeg mis o flaen llaw, nid ydym byth yn siŵr pa fath o amgylchiadau fydd yn ein hwynebu, ond gwyddwn y gall cerdded yn y mynyddoedd yn ystod y gaeaf fod yn dda, yn ddrwg, neu ar brydiau, yn hyll! ‘Llyn Crafnant a Llyn Geirionnydd o Gapel Curig’ oedd ein taith gerdded yn Eryri ym mis Chwefror.

Nid oedd y dyddiau blaenorol wedi bod yn dda, ac nid oedd y rhagolygon o gymylau isel, gwynt oer a glaw yn argoeli’n dda ar gyfer ein hymweliad ag Eryri. Fodd bynnag, er syndod i bawb, daeth gwasgedd uchel, a’r noson cyn y daith gerdded yr oedd yr awyr yn glir a chyrhaeddom yng Nghapel Curig ar ddiwrnod godidog o aeaf â’r aer yn glir ac oer, yr awyr yn las, gorchudd ysgafn o farrug ar y ddaear a’r haul yn codi gan addo diwrnod gwych o gerdded mynyddoedd.

Ni chawsom ein siomi.

Wedi paned o goffi yn y caffi â chlytiau o rew a barrug yn dal ar y ddaear, cychwynnom ddringo’r llwybr troed ar hyd y Pinaclau i Gwm Nant y Geuallt ac i ben y bwlch rhwng Clogwyn Mawr a Chlogwyn Mannod. Mae’r adolwg o’r llwybr hwn yn cynnig golygfa glasurol o fasiff Yr Wyddfa dros Lynnau Mymbyr wedi’i fframio gan fynyddoedd Moel Siabod a’r Glyderau. Wrth ddringo tuag at y gorllewin uwchben y bwlch i gopa’r Crimpiau gwelwyd golygfeydd godidog heb arlliw o darth o holl fynyddoedd y Carneddau, y Carneddau deheuol a’n cipolwg cyntaf o Lyn Crafnant. Erbyn hyn yr oedd yr haul wedi cynhesu a buom yno am amser maith yn mwynhau'r panorama tri chan chwe deg gradd ysblennydd, a thynnu lluniau wrth gwrs. Yr oedd arwynebau Llynnau Crafnant a Geirionnydd fel drychau a’r awyr las, yr heulwen, y coedwigoedd pinwydd a’r mynyddoedd o’u hamgylch, a’r golygfeydd o amgylch Mynydd Deulyn oll yn creu naws alpaidd. Yr oedd yr olygfa o ben gogledd dwyreiniol Llyn Crafnant ag adlewyrchiadau perffaith o’r tirlun oddi amgylch a’r heulwen ar wyneb y dŵr yn neilltuol gofiadwy.

Mae dyddiau Chwefror yn fyr ac wrth i ni ddychwelyd i ben uchaf y bwlch sydd o dan Glogwyn Mawr yr oedd yr haul yn disgyn a’r awyr yn oeri’n gyflym. Wrth ddychwelyd i Gapel Curig daeth yn amlwg y byddem yn gweld yr haul yn machlud ar fasiff Yr Wyddfa ac o’r Pinaclau uwchben y pentref yr oeddem yn ddigon ffodus i weld yr haul yn machlud yn ddramatig rhwng pegynau Lliwedd a’r Grib Goch ac o fewn ychydig funudau yr oedd yn gostwng o dan y gorwel a’r cyfan o fasiff Yr Wyddfa’n ôl-oleuedig yn ei sgil. Daeth y diwrnod i ben â machlud gogoneddus.

Mae amseru’n hollol allweddol! Wrth fod yn y lle iawn ar yr amser iawn y diwrnod hwnnw, cadarnhawyd y wireb sy’n dweud fod rhaid ymweld â’r mynyddoedd bob adeg o’r flwyddyn i’w gweld yn eu holl hwyliau ac nid oedd yr ymweliad arbennig hwn ag Eryri yn eithriad.

Mae David Pusey yn aelod ers amser maith o Gymdeithas Eryri a Chlwb Mynydda a Cherdded Costain.