Codi Waliau Cerrig
Nid oes llawer o olygfeydd sydd mor nodweddiadol o Eryri â wal gerrig draddodiadol. Maen nhw'n atal defaid a gwartheg rhag crwydro, ac ar hynny maen nhw'n gynefin i gennau a mamaliaid bychan, yn gysgod i anifeiliaid fferm, ac i'r sawl sy'n mwynhau harddwch y tirlun, yn arwedd nodweddiadol gwych o dirwedd Eryri.
Mae bodolaeth a cynhaliaeth y waliau'n dibynnu ar yr hen grefft o godi waliau sy wedi cael ei phasio ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth hyd heddiw. Mae Cymdeithas Eryri wedi bod yn hybu'r grefft werthfawr yma ers tro, ac mae'n cynnal ei chystadleuaeth codi waliau cerrig sychion blynyddol ers ugain mlynedd bellach.
Bydd cystadleuwyr o ar draws gogledd Cymru a thu hwnt yn ymryson i gael un o'r tlysau a'r gwobrau ariannol. Gwahoddir cystadleuwyr yn y categorïau proffesiynol, lled-broffesiynol, pobl ifanc ac amaturiaid. Caiff pob cystadleuydd sy'n cwblhau ei fesur o wal yn foddhaol ychydig o dâl ac mae yna wobrau ariannol a tlysau ym mhob categori.








