Prosiect Cadwraeth Eryri
Rydym yn cynnal rhaglen gyson o dasgau cadwraethol drwy gydol y flwyddyn sy'n cynorthwyo i gadw prydferthwch naturiol Eryri. O dan arweiniad Cydlynydd Gwirfollolwyr y Gymdeithas, mae grwpiau'n cyfarfod ar hyd a lled y Parc gan wneud amrywiaeth o weithgareddau.
Trefnir dyddiau gwaith yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau, sydd yn amrywio o hanner diwrnod yn unig at benwythnos cyfan o weithio. Gweithiwn mewn partneriaeth a sefydliadau eraill megis Addurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ,Yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol, Comisiwn Coedwigaeth a sawl un arall. Os ydych am fagu profiad neu gwneud gyrfa o reoli cefn gwlad, cewch y cyflei gyfarfod a gweithio gydag arbenigwyr cefn gwlad.
Mae gwaith gwirfoddol ynamrywiol iawn.Gall gynnwys cynnal achadw a chreu llwybrau troed yr ucheldir, clirio rhywogaethau goresgynnolmegis Rhododendron Gwyllt, Llysiau'r Cythraul a Jac y Neidiwr. Felrhan o'r 'Ymgyrch Glirio'rydym hefyd yn clirio llanast sydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon a sbwriel, yn ogystal ag unrhyw beth arall sy'n hyllu'r Parc. Efallai eich bod eisiau gwneud rhywbeth creadigol yn lle hynny? Fe geir cyfleoedd i arddio bywyd gwyllt yn yr ardd sylweddol yn Ty Hyll, neu efallai bod gennych awydd plannu coed a chreu cynefinoedd?
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch oherwydd darperir hyfforddiant cyflawn ac mae croeso i unrhyw un wirfoddoli.
Cefnogir a noddir Prosiect Cadwraeth Eryri gan CAE cronfa arbrofol eryri, Llywodraeth Cynulliad Cymru, a Chyngor Cefn Gwlad Cymru
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o hyn,a gwneud gwahaniaeth, e-bostiwch gwirfoddoli@cymdeithas-eryri.org.uk








