Achubwch afonydd Eryri

Snowdonia river

Llun: Steve Lewis

10 Hydref 2015

Annwyl Ffrind,

 

Yn ystod y misoedd diwethaf mae llif parhaol o geisiadau cynllunio wedi eu rhoi ger bron am gynlluniau trydan dŵr ar afonydd Eryri. Yn rhestr cynllunio Eryri ar gyfer wythnos gyntaf mis Awst roedd 23 cais, 12 ohonyn nhw am gynlluniau trydan dŵr; dyna 12 bygythiad posibl i ecoleg ein hafonydd a’n rhaeadrau yn ogystal â’u drama a’u harddwch.

Map showing proposed HEP sites

Lleoliadau hydro-electrig yn Eryri. Cliciwch ar y llun i’w gweld llawn faint.

Gadewch inni egluro: mae pŵer hydro’n dechnoleg ynni adnewyddadwy defnyddiol. Nid ydym yn gwrthwynebu pŵer hydro. Datblygiadau sy’n niweidio nodweddion arbennig Eryri yr ydym yn gwrthwynebu.

Bydd dyfodol Rhaeadr y Graig Lwyd yn cael ei benderfynu ar 2 Rhagfyr, pan fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn penderfynu ar y cais am gynllun dŵr 5MW o fewn Ffos Anoddun, man hudolus a hanesyddol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

 

Mae pob un o’r ‘deg safle gorau’ o dan bwgwthiad

Mae Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Anoddun yn un o’r deg safle gorau yng Nghymru ar gyfer y planhigion is brin – mwsoglau a llysiau’r afu – sydd ond yn byw mewn ceunentydd o’r fath. Mae gan bob un o’r safleoedd ‘Deg Gorau’ hynny un nai gynllun ynni dŵr ynddo eisioes neu â chais am gynllun hydro yn y system gynllunio.

Mae Cymdeithas Eryri wedi cyflwyno gwrthwynebiad manwl i’r cynllun yn Rhaeadr y Graig Lwyd, gan amlygu’r diffyg cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol, effeithiau’r cyfnod adeiladu ar fusnesau lleol a difrod i nodweddion naturiol unigryw llwybr yr afon.

Yn y cyfamser, dangosodd ein cais Rhyddid i Wybodaeth a roddwyd ger bron Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod arbenigwyr cadwraeth yn hynod o bryderus ynglŷn â’r cynnig yn Rhaeadr y Graig Lwyd ac nad oedd y rhain wedi eu hadlewyrchu yn ymateb swyddogol CNC. Rydym yn pwyso ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a CNC i adolygu eu dulliau o drin ceisiadau fel hyn.

Dangoswyd lefelau uchel o ddiffyg cydymffurfio mewn archwiliadau

Mewn archwiliadau diweddar gan CNC o osodiadau trydan dŵr ledled Eryri dangoswyd lefelau uchel o ddiffyg cydymffurfio. Penodwyd dirwyon am echdynnu mwy o ddŵr nac a ganiatawyd yn ôl y drwydded ac efallai y bydd erlyn yn digwydd. Fodd bynnag, nid yw’r CNC nac Awdurdod y Parc yn berchen ar yr adnoddau ar gyfer monitro a gorfodaeth barhaus.

Yn absenoldeb unrhyw asesiad strategol gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru o effaith cronnol y cynlluniau hyn, mae’r ras i droi dŵr yn arian yn rhoi pwysau aruthrol ar y system gynllunio.

Mae Cymdeithas Eryri’n chwarae rhan hanfodol mewn archwilio cynigion trydan dŵr

Mae Cymdeithas Eryri’n chwarae rhan hanfodol mewn archwilio graddfa, lleoliad ac effaith cynigion trydan dŵr. Dewch i’n helpu i barhau â’r frwydr dros afonydd Eryri, eu planhigion gwerthfawr a’u rhinweddau arbennig.

Mae eich cefnogaeth i waith Cymdeithas Eryri ar faterion fel hyn yn hanfodol bwysig ac rydym yn ei gwerthfawrogi’n fawr iawn. Yr ydym yn annog i chwi weithredu yn awr i helpu i ni achub afonydd Eryri a’u ecoleg.

Yn gywir iawn,
David Archer, Cadeirydd Cymdeithas Eryri

Cyfrannwch nawr

 

Llun: Steve Lewis