Pobl o bob math yn gwirfoddoli ym ‘Mhenwythnos MAD’ yn Eryri

Pobl o bob math yn gwirfoddoli ym ‘Mhenwythnos MAD’ yn Eryri

Daeth dros 80 o bobl i Eryri i gymryd rhan ym mhenwythnos MAD (Mentro a Dathlu) dros ddau ddiwrnod o waith cadwraeth dwys ledled Parc Cenedlaethol Eryri yn nigwyddiad dathlu pen-blwydd Cymdeithas Eryri yn 50 ar 29-30 Medi.  Dewisodd lawer o’r rhain wersylla ar stad Craflwyn lle cafwyd hefyd gerddoriaeth werin fyw.

Yn ogystal â dros 30 o wirfoddolwyr newydd a rheolaidd ledled Gogledd Cymru roedd yno hefyd:

  • 15 o blant o Ysgol Gynradd Beddgelert
  • Wyth aelod o staff First Hydro plc o Lanberis
  • Saith o fyfyrwyr Prifysgol Bangor
  • Naw o fynyddwyr Clwb y Rockhoppers o Lundain
  • Tîm o chwe aelod o staff Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

camp MAD

Yn ystod y digwyddiad amlygwyd pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ym maes cadwraeth, gyda staff o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Coed Cadw, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Cadw Cymru’n Daclus a’r Bartneriaeth Awyr Agored yn arwain gorchwylion gwirfoddoli dros y ddau ddiwrnod.

Un o’r gorchwylion oedd glanhau glannau’r Afon Dwyryd gyda Cadwch Gymru’n Daclus.  Bu Marian Pye, myfyriwr ôl-radd, yn helpu i symud 14 bag du o sbwriel a gasglwyd.  Meddai hi: “Alla’i ddim credu faint o sbwriel y cafwyd hyd iddo; nid yn unig y bagiau duon o sbwriel ond hefyd y saith teiar car a hyd yn oed teiar tractor a dynnwyd o’r afon”.  Ychwanegodd: “Mae’n drist ofnadwy bod hyn yn digwydd mewn lle mor hardd, ond hefyd yn anhygoel bod grŵp o bobl yn gallu cyflawni cymaint mewn ychydig oriau”.

Marian MAD WeekendYmysg y gorchwylion eraill roedd clirio Rhododendron ar Stad Craflwyn, rheoli cynefin dros fywyd gwyllt yn y coed ger Betws-y-coed, cynnal a chadw llwybrau ger Beddgelert a chasglu sbwriel yng Nghwm Hetiau, un o gymoedd mwyaf anghysbell Eryri.

Yn ôl Rob Collister, mynyddwr rhyngwladol profiadol a arweiniodd y criw i gasglu sbwriel yng Nghwm Hetiau (a enwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif oherwydd y nifer o hetiau a fyddai’n cael eu chwythu oddi ar bennau pobl gan y gwynt), “Daeth ein tîm o hyd i ryw 15 o hetiau ac, er nad oedan nhw’n hen, maen nhw’n ein hatgoffa bod sbwriel yn dal yn broblem dros 100 o flynyddoedd yn ddiweddarach.”

hats MADEr bod penwythnos MAD yn rhan o raglen dathlu pen-blwydd arbennig Cymdeithas Eryri ar gyfer 2017, mae’n bosib iawn y bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal eto yn 2018.

Meddai John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri: “Rydym mor falch bod grwpiau mor amrywiol o bobl wedi cymryd rhan yn ein penwythnos MAD, pob un ohonyn nhw â’r nod o warchod Eryri.  Roedd cyfraniad gwirfoddolwyr a chyrff sy’n bartneriaid yn wych ac rydym yn gobeithio ei gynnal eto’r flwyddyn nesaf!”


 

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiad 2017 neu i gymryd rhan ym mhenwythnos MAD, e-bostiwch Claire: claire@snowdonia-society.org.uk

Comments are closed.