Datganiad ar Fynediad, Tŷ Hyll

Mae Tŷ Hyll yn Adeilad Rhestredig Gradd II hanesyddol, sy’n dyddio o oes Victoria o leiaf. Rydym yn cynnig croeso cynnes iawn i bob ymwelydd, ac rydym wedi gwneud ein gorau glas i ddarparu mynediad i gadeiriau olwyn o fewn cyfyngiadau safle serth iawn ac adeilad rhestredig.

Mae ailwampio helaeth yn 2012 wedi gwella mynediad i’r tŷ yn sylweddol, ond dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol fod rhannau o’r tiroedd yn arw ac anwastad. Gellir defnyddio ramp neu risiau i fynd i mewn i’r ystafell de ar lawr gwaelod y tŷ. O’r prif ddrws llydan, mae mynediad gwastad ymhob rhan o’r ystafell de. Cynigir gwasanaeth gweini ar fyrddau. Mae’n anochel fod y lle sydd ar gael yn yr adeilad bychan hwn yn gyfyngedig, felly rydym yn argymell y dylai defnyddwyr cadair olwyn gysylltu â ni ymlaen llawn fel y gallwn symud rhai o’r dodrefn. Gellir neilltuo bwrdd yn yr ystafell de, ac fe wnaiff hyn ein cynorthwyo i wneud eich ymweliad yn un mwy pleserus.

Mae toiled sy’n cynnig mynediad i’r anabl yng nghefn yr adeilad, ac mae ar gael ar gyfer pobl anabl sy’n ymweld â’r ystafell de a’r tiroedd. Dylai ymwelwyr ofyn i staff yr ystafell de am allwedd i ddefnyddio’r cyfleuster hwn. Gosodir clo Radar yn y dyfodol agos. Gall unigolion mwy abl sy’n ymweld â’r tŷ a’r tiroedd ddefnyddio toiled compostio, sydd wedi’i leoli ar wahân i’r tŷ uwchlaw’r ardd bywyd gwyllt. Gellir ei gyrraedd trwy ddilyn llwybr â lled o 900mm, ond dylid nodi fod y llwybr yn pasio trwy dir garw ac mae ganddo ddwy ran fer, serth.Mae ein harddangosfa gwenyn mêl ar lawr uchaf y bwthyn, ac oherwydd cyfyngiadau lle a phosibiliadau o ran ailwampio yn yr adeilad rhestredig hwn, mae’n flin gennym fod mynediad i’r arddangosfa trwy res o risiau cyfyng. Mae taflenni gwybodaeth am yr ardd a’n gwenyn mêl ar gael ar lawr gwaelod y tŷ a thrwy ein gwefan www.theuglyhouse.co.uk

Rydym yn croesawu cŵn cymorth ymhob rhan o’r tŷ a’r tiroedd. Gellir darparu powlen o ddŵr ar gais.

Mae dwy fynedfa i’r tŷ a’r tiroedd – y brif fynedfa ar gornel yr A5 a’r isffordd sy’n mynd wrth ochr y tŷ, ac un arall tua 10 medr ymhellach i fyny’r isffordd hon. Nid yw’r brif fynedfa yn hygyrch i gadeiriau olwyn a gall fod yn anodd i ymwelwyr ag anawsterau symud oherwydd mae tri gris llechfaen. Mae’r ail fynedfa yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae ramp i’r fynedfa o’r lle parcio Bathodyn Glas yn y maes parcio uchaf, er bod rhaid i ymwelwyr groesi’r isffordd yn lletraws, ac mae gan yr isffordd raddiant croes-ddisgyn serth. Os oes arnoch angen cymorth, rhowch alwad i ni cyn ymweld os gwelwch yn dda, a bydd staff yr ystafell de yn fwy na pharod i gynorthwyo.

Cynghorir ymwelwyr sydd ag anawsterau symud i barcio yn y maes parcio uchaf a defnyddio’r ramp i fynd i’r tŷ bydd angen hynny. Cynghorir ymwelwyr nad ydynt yn dymuno defnyddio’r ramp i barcio yn y maes parcio isaf. Mae un lle parcio wedi’i neilltuo i ddeiliaid Bathodyn Glas yn y maes parcio uchaf, wrth ymyl y ramp.

Os oes gennych gwestiynau ynghylch sut gallwn eich cynorthwyo ymhellach, cysylltwch â ni yn syth os gwelwch yn dda, ac fe wnawn eich gorau i’ch cynorthwyo i gynllunio eich ymweliad. Ffoniwch ni ar 01492 642322.

Gwasanaeth Ffôn Symudol
Mae gan rwydweithiau O2, Orange a T Mobile wasanaeth yn Tŷ Hyll, tra bod gwasanaeth rhwydweithiau eraill yn anghyson; nid oes gan rai unrhyw wasanaeth o gwbl.Cwsmeriaid sy’n ddall ac yn gweld yn rhannol

Gellir darparu testun ein taflenni gwybodaeth i ymwelwyr mewn print bras os dymunir, cysylltwch ag info@snowdonia-society.org.uk. Mae bwydlenni print bras ar gael. Croesawir cŵn cymorth.

Cysylltwch â ni os ydych â sylwadau am sut allwn wella mynediad i Dŷ Hyll.
01286 685498
info@snowdonia-society.org.uk

No Upcoming Events Found