ty_hyll_sally_smith

(Sally Smith)

Hanes Tŷ Hyll

Mae Tŷ Hyll yn dŷ sy’n llawn hanes, chwedlau a dirgelwch; nid oes neb yn gwybod yn iawn pwy adeiladodd y tŷ, na phryd.

Yn ôl y chwedl, codwyd y tŷ dros nos yn y 15fed ganrif – ‘tŷ unnos’. Yn ôl traddodiad y cyfnod, gallai adeiladwyr hawlio tŷ a adeiladwyd yn ystod un noson fel eu heiddo eu hunain, os deuai mwg o’r simnai erbyn y wawr.

Dywed chwedlau eraill mai lladron a adeiladodd y tŷ, i gymryd mantais ar deithwyr ar yr hen ffordd fawr wrth iddynt deithio trwy Eryri – pobl ‘hyll’ a roddodd enw drwg dychrynllyd i’r tŷ.

ugly-house-pathe-film-1938

Gwyliwch y ffilm 1938 hon gan British Pathe am Dŷ Hyll. Gallech chi sylwi ar y gwallau?

Efallai y bu Tŷ Hyll yn guddfan lladron yn ystod y bymthegfed ganrif, a gallai llafurwyr o Iwerddon a adeiladai bont Telford dros afon Llugwy yn 1820 fod wedi’i ddefnyddio i gysgodi. Ond ni chrybwyllir Tŷ Hyll gan awduron hanesion teithio tan 1853, felly gallai fod yn ffoli o oes Fictoria – atyniad rhamantus i’r nifer cynyddol o ymwelwyr a ddeuai i Eryri.

Byddai angen llawer iawn o fôn braich i symud y cerrig enfawr a’u gosod yn eu lle. Erbyn canol y 19eg ganrif, byddai gan lawer o chwarelwyr Cymru y sgiliau angenrheidiol i symud clogfeini mawr o’r fath, a’u gwyro’n fedrus i atal y glaw rhag mynd i mewn i’r tŷ, a heb unrhyw forter, defnyddio mwsogl i lenwi’r bylchau yn y waliau trwchus i atal drafftiau.

Pam tŷ hyll?

Ty-Hyll-visitors-snowdonia

Dros y blynyddoedd, yn ystafell de, siop hen bethau ac atyniad twristiaeth.

Mae rhai yn dweud fod yr enw Tŷ Hyll yn addasiad o’r enw ‘Llugwy’, enw’r afon sy’n byrlymu’r ochr draw i’r ffordd. Ond efallai mai’r clogfeini mawr bras a roddodd enw i’r tŷ; yn Gymraeg, gall y gair ‘hyll’ hefyd olygu garw neu fras.

Pwy sydd wedi byw yn Tŷ Hyll?

Yr unigolyn cyntaf y gwyddom iddo fyw yma oedd bugail lleol o’r enw John Roberts, yn 1900. Mae’n debyg fd ei aelwyd edi bod yn lle elfennol iawn rhwng y waliau cerrig trwchus a sych:  un ystafell fyw â lle tân mawr i ddarparu gwres ac i goginio, ac ysgol yn arwain at lofft o dan y to lle byddai’n cysgu.

lilian_ted_riley_ty_hyll

Lilian a Ted Riley

Y bobl fu fyw yma hiraf oedd y teulu Riley, o 1928 i 1961. Gweithiai Edward Riley yn y Towers sydd uwchlaw ein maes parcio. Fe wnaeth ‘wella’ Tŷ Hyll yn raddol, gan osod llawr cyfan i fyny’r grisiau lle ceid ystafell wely ac ystafell ymolchi, a pharlwr a chegin gefn ar wahân i lawr grisiau. Croesawai Edward a Lilian ymwelwyr i’r tŷ dros y blynyddoedd, gan eu diddori â hanesion a’u cocatŵ anwes, ac felly, cychwynnwyd traddodiad hir rydych chithau bellach yn rhan ohono!

Cyfnod newydd yng ngofal Cymdeithas Eryri

cess_ty_hyll

Pencadlys Cymdeithas Eryri 1989 – 2010

Wedi marwolaeth Lilian ac Edward Riley, cafodd Tŷ Hyll sawl perchennog, a ddefnyddiodd yr adeilad fel ystafell de, siop hen greiriau ac atyniad i ymwelwyr. Roedd bron iawn yn adfail pan gafodd ei brynu gan Gymdeithas Eryri yn 1988, a chafodd yr adeilad rhestredig ei adfer yn sensitif gan griw o wirfoddolwyr ymroddgar er mwyn darparu canolfan ymwelwyr a phencadlys ar gyfer y Gymdeithas.

Yn 2010, symudodd Cymdeithas Eryri ei swyddfeydd i’r Caban, ym Mrynrefail, ger Llanberis.  Caniataodd hyn i’r Gymdeithas ailwampio Tŷ Hyll, ac agorwyd yr adeilad fel ystafell de ac arddangosfa gwenyn yn 2012. Defnyddir yr ardd a’r coetir fel adnodd addysgol, er budd y pryfed peillio a’r bywyd gwyllt arall, a byddant yn cynnig mwynhad i dros 35,000 o ymwelwyr o bell ac agos bob blwyddyn.

Allwch chi helpu i lenwi’r bylchau?

Os oes gennych chi unrhyw hen hanesion neu luniau o Tŷ Hyll, byddem wrth ein bodd cael eu clywed neu eu gweld. Neu os byddwch yn eich elfen yn pori mewn cofnodion archifau a chyfrifiadau (mae llawer ohonynt bellach ar gael ar-lein), gallech helpu i fwrw goleuni ar orffennol Tŷ Hyll.

Cysylltwch â ni:

01286 685498
info@snowdonia-society.org.uk

Ymddiheurwn ond mae na broblem dechnegol ar y system cyfieithu. Defnyddiwch y dolenni yn y prif fenu i weld rhestr o ddigwyddiadau.