Planhigion a hadau er lles gwenyn wedi codi £2,883

Record newydd yn 2016!

Diolch i ymdrechion mawr gwirfoddolwyr Tŷ Hyll, dan arweiniad Margaret Thomas, mae gwerthiannau Planhigion i Beillwyr a Hadau er lles Gwenyn wedi codi £2,883 at cynnal a chadw yr adeilad a gerddi sbesial hwn.

Prynu Hadau er lles Gwenyn

Dyma hadau blodau gwyllt brodorol ac amrywiadau gardd sy wedi eu dewis yn arbennig i ddenu gwenyn mêl a pheillwyr eraill, wedi eu casglu â llaw gan wirfoddolwyr Tŷ Hyll. Mae’r amrywiaethau’n cynnwys rhywogaethau brodorol megis bysedd y cwn, bulwg yr ŷd, hocys mwsg, carpiog y gors a llawer mwy.

Maent yn gynnyrch cyfeillgar i’r amgylchedd delfrydol, yn y ffordd y maent yn cael eu cynhyrchu a’u pecynnu a hefyd gan eu bod yn cefnogi ein natur lleol.

Maent hefyd yn gwneud anrhegion delfrydol i amgau efo cerdyn cyfarch, er enghraifft y cerdyn cyfarch hardd newydd a gynlluniwyd gan Jane Hanford sydd bellach ar werth yn Nhŷ Hyll.

Mae Hadau er lles gwenyn ar gael ar ein gwefan am ddim ond £1 y paced ac hefyd yn Tŷ Hyll.

Planhigion i beillwyr ar werth

Mae planhigion hefyd yn cael eu rhannu a photio i’w gerthu a chododd hyn £1,415 yn 2016!

Os ydych yn hoffi garddio a ddim yn ddigon ffodus i gael eich plot eich hun, neu os gallwch sbario ‘chydig o oriau i ffwrdd o’ch gardd chi, beth am ddod i gynorthwyo ar ein dyddiau garddio bywyd gwyllt bob dydd Llun yn Tŷ Hyll?

Cysylltwch â margthomas194@btinternet.com i gael gwybod mwy.

 

Comments are closed.