Tîm o staff Cymdeithas Eryri yn codi arian yn noson cwis

Tîm o staff Cymdeithas Eryri yn codi arian yn noson cwis

Dydd Mawrth diwethaf wnaeth tîm o staff a ffrindiau Cymdeithas Eryri cymryd rhan yn gwis misol y Douglas Arms ym Methesda a chodwyd £64 tuag at waith y Gymdeithas mewn un noson.

Wnaeth y tîm o bump llwyddo i sgorio 52 o bwyntiau allan o 70 yn y cwis anodd, ond cafodd ei churo gan gwestiynau fel ‘Beth oedd opera unigol Beethoven?’ ymysg eraill!*

Cyfanswm enillion o £440 ers mis Mai 2017

Yn y gwanwyn enwebodd meistr y cwis ag aelod y Gymdeithas Gareth Jones y Gymdeithas Eryri i dderbyn y rhoddion o’r digwyddiad misol, gan dangos parodrwydd ein haelodau i helpu codi arian i’r Gymdeithas.

Bydd rhoddion o gwis y Douglas yn mynd at ein Cronfa’r Dyfodol gyda tharged o £50,000 i nodi’r hanner canmlwyddiant – ac rydym ni’n 78{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} yno! Cliciwch yma i gyfrannu ac i helpu ni gyrraedd ein targed erbyn Ionawr 2018.

Eich cyfle i gymryd rhan

Beth am brofi eich gwybodaeth gyffredinol ac ymuno â’r cwis ar yr ail dydd Mawth o bob mis? Mae yna botel o win i’w ennill a bydd y rhoddion i gyd yn mynd tuag at ein gwaith wrth ofalyu am Eryri.

*Mae angen arbenigwyr mewn hanes cerddoriaeth ar gyfer y tîm! Cysylltwch os hoffech ymuno â ni ar gyfer y cwis nesaf, Dydd Mawrth 12 o Ragfyr.

Comments are closed.