Rhaeadr y Graig Lwyd enwebu fel Tirnod y Flwyddyn

Pleidleisiwch dros Rhaeadr y Graig Lwyd!

Mae Fiona Reynolds, yr awdur enwog a chyn-Gyfarwyddwraig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wedi enwebu Rhaeadr y Graig Lwyd fel Tirnod y Flwyddyn yng Ngwobrau Cylchgrawn Countryfile am 2017. Mae’r Rhaeadr yn un o bum tirnodau yn y categori, wedi’i ddisgrifio fel y rhaeadr “mwya’ hudol yn yr ardal” gyda rhinweddau “unigryw” ac “anwrthwynebadwy”.

Mae hyn yn fwy perthnasol nag erioed, gyda’r cynllun hydro-electrig wedi ei atal am rwan ond dal yn bygythiad i harddwch gwyllt Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Anoddun. I ddarllen fwy amdan sefyllfa Cymdeithas Eryri  yn yr ymgrych, cliciwch yma.

Rhowch eich pleidlais

Gwnewch yn siwr eich fod yn rhoi eich pleidlais ar wefan Countryfile i ddangos eich awydd i warchod rhinweddau arbennig ein dirnodau yma yn Eryri. Nawr yw’r amser i ddathlu’r harddwch naturiol sydd o’n gwmpas. Pleidleisiwch rwan.

 

 

Comments are closed.